Mae cwrs Llwybrau i Sero Net IEMA yn rhoi canllawiau eglur, cyson ar yr arfer orau i ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Nod y cwrs yw rhoi trosolwg strategol a gweithredol o gynaliadwyedd amgylcheddol i oruchwylwyr ac arweinwyr mewn perthynas â sut mae’n effeithio ar eu diwydiant a’u maes gwaith penodol.
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer goruchwylwyr a rheolwyr o bob sector.
Bydd y cwrs dau ddiwrnod hwn yn ymdrin â’r meysydd allweddol canlynol:
1. Pam sero net?
2. Ymateb i sero net
3. Mesur nwyon tŷ gwydr – cychwynnol
4. Niwtraledd carbon
5. Methodolegau sero net
6. Datblygu cynllun datgarboneiddio
7. Sero net ar draws y gadwyn gwerth
8. Cyfathrebu sero net
Fel rhan o’r asesiad, bydd prawf gyda 20 cwestiwn aml-ddewis. Bydd y prawf hwn yn cael ei gwblhau drwy borth asesu IEMA ac anfonir dolen at ymgeiswyr wrth iddynt gofrestru i wneud yr asesiad.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.