Mae'r rhaglen hon wedi’i datblygu o ganlyniad i ymgynghoriad a nododd alw am raglen hyfforddiant athrawon ôl-16, sy’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyfoethogi sgiliau Cymraeg i’w defnyddio yn y dosbarth.
Bydd y rhaglen yn defnyddio’r modiwlau, strategaeth asesu ac addysgu, yn ogystal â gweithgareddau lleoliad er mwyn ymgorffori a thrwytho datblygiad sgiliau Cymraeg drwy’r rhaglen. Yn cynnig amgylchedd cyson a chefnogol lle all hyfforddeion fagu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg wrth addysgu.
Byddwch yn ymdrin â modiwlau fel:
Ffioedd Dysgu: £9,000.00
Bydd angen i ddysgwyr gael gwiriad DBS llawn cyn dechrau'r cwrs.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Yn hanesyddol, mae Graddedigion rhaglenni AHO yn hynod gyflogadwy oherwydd natur y cymhwyster, sy’n eu galluogi i fanteisio ar gyfleodd addysgu a hyfforddi nad ydynt o reidrwydd wedi’u cyfyngu’n ôl pwnc. Mae’r rhaglen yn parhau i gefnogi hyn, ac yn gwella cyflogadwyedd drwy gynnwys meysydd astudio ehangach, myfyrio ar anghenion dysgwyr o fewn y sector, yn ogystal ag agendâu cenedlaethol a rhyngwladol ehangach.