Bydd yr Gradd Sylfaen mewn Cyflyru, Adferiad a Thylino'r Corff mewn Chwaraeon yn darparu cyfle i fyfyrwyr baratoi at weithio yn y diwydiant hamdden a chwaraeon proffesiynol cynyddol. Bydd hefyd yn datblygu sgiliau sy'n bodloni agweddau ar yr agenda iechyd a lles ehangach.
Nod y cwrs yw datblygu gwybodaeth ddeallusol a dealltwriaeth o'r disgyblaethau academaidd a chysyniadau allweddol sy'n tanategu Cyflyru, Adferiad a Thylino'r Corff mewn Chwaraeon yn y DU a thramor. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â modiwlau sy'n gwerthuso sail weinyddol paratoadau ac adferiad perfformwyr mewn chwaraeon. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau technegol yng nghyflyru ac adfer perfformwyr chwaraeon ac amrywiaeth o feinwe meddal/dulliau tylino. Nod y rhaglen yw galluogi myfyrwyr i gymhwyso egwyddorion ymarferion proffesiynol mewn amgylcheddau cystadleuol a heb fod yn gystadleuol yn ogystal â'u paratoi at gyflogaeth a/neu astudiaeth yn y dyfodol.
Bydd y cwrs wedi'i leoli yn Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd yn Lecwydd, sydd â chyfleusterau o'r radd flaenaf ac yn gwasanaethu fel canolfan ganolog ar gyfer darpariaeth chwaraeon y coleg.
Mae'r modiwlau yn ymdrin â'r meysydd pwnc canlynol:
Bydd y dulliau dysgu ac addysgu yn cynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai, sesiynau ymarferol a thiwtorialau. Defnyddir ystod o ddulliau asesu gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau gwyddonol, cyflwyniadau, asesiadau ymarferol, asesiadau ar sail gwaith a phortffolios.
Defnyddir ystod o ddulliau asesu gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau gwyddonol, cyflwyniadau, asesiadau ymarferol, asesiadau ar sail gwaith, portffolios ac arholiadau.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
96 pwynt tariff UCAS o leiafswm o 2 gwrs Safon Uwch perthnasol (yn cynnwys Addysg Gorfforol ac un arall) neu Ddiploma Estynedig BTEC (QCF)/ Diploma Cenedlaethol BTEC (NQF).
I ymgeiswyr sy'n ymgymryd â'r Diploma Estynedig neu Genedlaethol, bydd cymwysterau eraill, profiadau a chyflawniadau chwaraeon yn cael eu hystyried. Ar gyfer mynediad ansafonol, cyfweliad llwyddiannus yn arddangos ymrwymiad i astudio, potensial academaidd a thystiolaeth o astudiaeth neu gyflogaeth ddiweddar. Ystyrir ceisiadau i'r cwrs ar sail unigol.
Gall cyfweliad llwyddiannus hefyd fod yn ofyniad i sicrhau lle ar y cwrs.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn gallwch fynd ymlaen i gwblhau'r Ddiploma Estynedig 2-flynedd llawn. Mae llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i gyrsiau yn y brifysgol, mae eraill yn mynd yn uniongyrchol i gyflogaeth. Mae CAVC yn cynnig HNC mewn Hyfforddi Chwaraeon ac, o'i gwblhau'n llwyddiannus, mae'n arwain at gwrs ychwanegol ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd i gwblhau'r cwrs gradd llawn.