HND mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng
Ynglŷn â'r cwrs
Bydd y cwrs HND Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng yn rhoi sail ymarferol ac academaidd cryf i chi ynglŷn â sut mae'r gwasanaethau Cyhoeddus, Argyfwng a'r Arfog yn cael eu gweithredu, eu trefnu a'u rheoli. Cewch gyfle i gwblhau profiadau gwaith, neu weithio ar brosiectau gyda Sefydliadau Cyhoeddus. Yn ogystal â chyfoethogi eich astudiaethau, bydd hyn hefyd yn rhoi profiad bywyd go iawn gwerthfawr i chi yn y gweithle a'ch helpu chi i baratoi ar gyfer eich gyrfa.
Darperir y cwrs ar ddau safle, sef campws Y Barri a Champws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd.
Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – SP01, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - B, Enw Campws – Campws y Barri
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCA
Beth fyddwch yn ei astudio?
Er mwyn sicrhau bod gennych ddealltwriaeth dda o sut mae Gwasanaethau Cyhoeddus a Brys yn gweithio, byddwch yn astudio modiwlau craidd mewn 'cynllunio a gweithrediadau' yn y flwyddyn gyntaf ac yna 'Argyfyngau, Trychinebau a Thrafnidiaeth' yn yr ail flwyddyn. Ymhlith y modiwlau eraill y byddwch yn eu hastudio mae:
Modiwlau Craidd Blwyddyn Un:
- Cynllunio a Gweithredu
- Trefn ac Ymddygiad yn y Sector Cyhoeddus
- Archwilio Gwasanaethau Cyhoeddus
- Materion Cyhoeddus
Modiwlau Craidd Blwyddyn Dau:
- Profiad Gwaith a Pholisi Cymdeithasol
- Argyfyngau, Trychinebau a Thrafnidiaeth
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Prosiect Gwasanaethau Cyhoeddus
- Cyfraith Gwasanaethau Cyhoeddus
Yn ystod y cwrs byddwch yn cael y cyfle i ennill amrywiaeth o gymwysterau ychwanegol yn cynnwys Cymorth Cyntaf a chymwysterau Diffibrilio. Mae'r holl ddarlithwyr yn, neu wedi bod yn aelodau o'r Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn ystod y cwrs byddwch yn cael cyfle i ennill cymwysterau Gwobr Dug Caeredin ochr yn ochr â chymhwyster Cymorth Cyntaf a Diffibrilio. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i wirfoddoli gyda Chadetiaid y Fyddin. Gall y rhai hynny sy'n dewis gwneud hynny ennill y cymhwyster Paratoi i Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes yn ogystal â chymhwyster (Lefel 3) y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £7,500.00
Cit/Deunyddiau : £250.00
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gofynion mynediad
48 pwynt tariff UCAS o 2 gwrs Safon Uwch perthnasol neu Ddiploma Estynedig BTEC. Ar gyfer ymgeiswyr sy'n ymgymryd â'r Diploma Cenedlaethol, bydd cymwysterau, profiadau a chyflawniadau eraill yn cael eu hystyried. Ar gyfer mynediad ansafonol, cyfweliad llwyddiannus yn dangos ymrwymiad i astudio, potensial academaidd a thystiolaeth o astudiaeth neu gyflogaeth ddiweddar. Ystyrir ceisiadau i'r cwrs yn unigol. Gall cyfweliad llwyddiannus hefyd fod yn ofyniad i sicrhau lle ar y cwrs.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Mae’r cwrs hwn wedi cynnig cyfleoedd gwych i mi ac mae wir wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau.
Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn bydd llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio cyrsiau mewn prifysgol, a bydd eraill yn mynd yn syth i fyd gwaith.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu