Mae'r HND Maintfesuraeth yn adeiladu ar wybodaeth a sgiliau'r HNC. Mae hyn yn ymdrin â hanfodion rheoli costau'r diwydiant adeiladu a'r technegau a ddefnyddir ar gyfer ymarfer maintfesuraeth uwch.
Mae’r Diploma Cenedlaethol Uwch yn uchel ei barch ymhlith cyflogwyr oherwydd y profiad ymarferol a gafwyd yn y tasgau a’r gofynion amrywiol y mae gweithwyr adeiladu proffesiynol yn eu hwynebu.
Erbyn diwedd Lefel 5, bydd gan fyfyrwyr ddealltwriaeth gadarn o'r egwyddorion yn eu maes astudiaeth arbenigol a byddant yn gwybod sut i gymhwyso'r egwyddorion hynny yn ehangach ym myd busnes. Byddant yn gallu perfformio'n effeithiol yn eu maes arbenigol.
Byddwch yn astudio'r 5 modiwl gorfodol canlynol ar y cwrs hwn,
Byddwch hefyd yn astudio 45 credyd pellach ar lefel 5 a osodir gan y tiwtor.
Bydd y rhaglen yn cael ei haddysgu gan ddefnyddio cyfuniad o ddarlithoedd, siaradwyr gwadd a thiwtorialau. Bydd y rhaglen yn cael ei hasesu gan ddefnyddio cyfuniad o aseiniadau, asesiad ymarferol ac arholiadau.
Ffioedd Dysgu: £2,560.00
Cwblhau HNC mewn Mesur Meintiau.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau'r HND, gall dysgwyr symud ymlaen i brifysgol ac astudio BA (Anrh) mewn Maintfesuraeth neu symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth yn y sector adeiladu.