HND Peirianneg Awyrofod

L5 Lefel 5
Rhan Amser
16 Medi 2024 — 16 Mehefin 2028
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod

Ynghylch y cwrs hwn

Awyrofod yw un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU ac mae cyfleoedd cyffrous i weithio yng Nghymru a ledled y byd.Mae’r sector wedi gweld twf cyson yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n cefnogi nifer cynyddol o swyddi sgiliau uchel, gwerth uchel.Os oes gennych angerdd am awyrennau, neu os ydych yn dymuno datblygu i fod yn beiriannydd gyda sgiliau peirianneg eang ac amrywiol sy'n berthnasol ar draws ystod eang o ddiwydiannau, yna mae'r cwrs hwn yn addas i chi.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno yn ein Canolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod.

Mae staff peirianneg profiadol sydd â phrofiad diwydiannol perthnasol yn y sector peirianneg awyrennol yn darparu'r hyfforddiant.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y pynciau’n cynnwys:

  • Prosiect Ymchwil
  • Rheoli Peirianneg Broffesiynol
  • Mathemateg Bellach
  • Systemau Rheoli Hedfan Awyrennau
  • Egwyddorion a Thechnoleg Gyriant Awyrennau
  • Systemau Afionig
  • Dyluniad a Pherfformiad Peiriannau Tyrbin Nwy Awyrennau

Mae cynllun y rhaglen yn fodiwlaidd a bydd myfyrwyr yn astudio'r hyn sy'n cyfateb i 120 credyd y flwyddyn academaidd (cyfwerth ag amser llawn).

  • Mae dulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd, sesiynau rhoi gwybodaeth grŵp cyfan, gweithdai, tiwtorialau, gwaith ymarferol, ac e-ddysgu cyfunol a beirniadaethau grŵp.
  • Mae'r asesu ar gyfer y cwrs wedi'i gynllunio, lle bo'n bosibl, i efelychu'r amrywiaeth o dasgau y gall graddedigion o'r rhaglen ddod ar eu traws mewn cyflogaeth berthnasol.Lle bo angen, defnyddir dyfeisiau asesu academaidd eraill hefyd, megis arholiadau ffurfiol.
  • Bydd y gwaith ymarferol yn adlewyrchu technegau o’r byd go iawn y byddai ymarferwyr yn dod ar eu traws yn y diwydiant awyrofod.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £6,000.00

Gofynion mynediad

  • 48 pwynt tariff UCAS
  • Dwy Lefel A yn cynnwys Mathemateg a phwnc technegol arall, (Ffiseg fel arfer) gydag o leiaf teilyngdod - Diploma Lefel 3 BTEC Cenedlaethol neu Ddiploma Estynedig mewn pwnc perthnasol,
  • Efallai y derbynnir cymwysterau lefel 3 eraill.
  • Efallai caiff myfyrwyr gyda phrofiad gwaith perthnasol eu heithrio rhag gofynion mynediad cyffredin.
  • Mae'n rhaid i holl fyfyrwyr fod yn gymwys mewn Saesneg iaith at safon gyfwerth ag o leiaf gradd 4 (neu C) mewn Saesneg TGAU.
  • IELTS 5.5

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

16 Medi 2024

Dyddiad gorffen

16 Mehefin 2028

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

AERH5P50
L5

Cymhwyster

HND Aeronautical Engineering

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

123,000

Mae diwydiant Awyrofod y DU yn parhau i fod yn ail ar lwyfan y byd a’r mwyaf yn Ewrop, gyda throsiant o £35 biliwn, 123,000 o weithwyr uniongyrchol a 3,900 o Brentisiaid.

Ar ôl cwblhau'r HND yn llwyddiannus, mae hefyd yn bosibl gwneud ail / trydedd flwyddyn, sef gradd tair blynedd.

Gall myfyrwyr sy'n cwblhau eu hastudiaethau lefel 5 yn llwyddiannus adael gyda HNC mewn Peirianneg Awyrofod a byddant yn gallu symud ymlaen i gyflogaeth yn niwydiant y sector awyrofod.

Lleoliadau

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod

Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod (ICAT), 
Parc Busnes Maes Awyr Caerdydd, 
Y Rhws, 
Bro Morgannwg, 
CF62 3DP