Awyrofod yw un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU ac mae cyfleoedd cyffrous i weithio yng Nghymru a ledled y byd. Mae’r sector wedi gweld twf cyson yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n cefnogi nifer cynyddol o swyddi sgiliau uchel, gwerth uchel. Os oes gennych angerdd am awyrennau, neu os ydych yn dymuno datblygu i fod yn beiriannydd gyda sgiliau peirianneg eang ac amrywiol sy'n berthnasol ar draws ystod eang o ddiwydiannau, yna mae'r cwrs hwn yn addas i chi.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno yn ein Canolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod.
Mae staff peirianneg profiadol sydd â phrofiad diwydiannol perthnasol yn y sector peirianneg awyrennol yn darparu'r hyfforddiant.
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am symud ymlaen i reoli technoleg awyrofod neu ennill cydnabyddiaeth broffesiynol trwy symud ymlaen i Statws Peiriannydd Corfforedig. Mae'r cwrs yn cwmpasu:
Blwyddyn 1 (llawn amser) – lefel 4:
Mae cynllun y rhaglen yn fodiwlaidd a bydd myfyrwyr yn astudio'r hyn sy'n cyfateb i 120 credyd y flwyddyn academaidd (cyfwerth ag amser llawn).
Ffioedd Dysgu: £1,920.00
Yn achos myfyrwyr sydd wedi bod mewn addysg yn ddiweddar, mae'r proffil mynediad yn debygol o gynnwys 48 pwynt tariff UCAS a gafwyd o un o'r canlynol: ● Cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg (gyda phroffil Teilyngdod yn ddelfrydol) ● Proffil Lefel Uwch TAG sy'n dangos perfformiad cryf mewn pwnc perthnasol neu berfformiad digonol mewn mwy nag un pwnc TAG. Mae'r proffil hwn yn debygol o gael ei gefnogi gan raddau TGAU A* i C a/neu 9 i 4 (neu gyfwerth) ● Cymwysterau Lefel 3 cysylltiedig eraill ● Tystysgrif Mynediad i Addysg Uwch a ddyfarnwyd gan sefydliad addysg bellach cymeradwy ● Profiad gwaith cysylltiedig ● Cymwysterau rhyngwladol sy'n gyfwerth â'r uchod.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gall myfyrwyr sy'n cwblhau eu hastudiaethau lefel 4 yn llwyddiannus adael gyda HNC mewn Peirianneg Awyrofod a byddant yn gallu symud ymlaen i gymhwyster HND lefel 5 neu gyflogaeth yn niwydiant y sector awyrofod.