Gradd Sylfaen mewn Hyfforddi a Dadansoddi Cymhwysol mewn Perfformiad Pêl-droed
Ynghylch y cwrs hwn
Nod y rhaglen FdSc Hyfforddi a Dadansoddi Perfformiad Pêl-droed Cymhwysol yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o'r rhyngweithio deinamig a chymhleth sy'n bodoli o fewn yr amgylcheddau hyfforddi, dadansoddi perfformiad a chryfder a chyflyru. Bydd y rhaglen yn rhoi ymwybyddiaeth graff i fyfyrwyr o sut y gall theori o ystod o feysydd lywio a chael ei lywio gan ymarfer er mwyn datblygu galluoedd datrys problemau mewn modd beirniadol ac arloesol. Yn bwysig iawn mae'r rhaglen Hyfforddi a Dadansoddi Cymhwysol o Berfformiad Pêl-droed yn gosod y berthynas hyfforddwr-athletwr fel perthynas addysgol ac felly mae'r cwrs hwn yn gosod lefel uchel o arwyddocâd ar rôl addysgeg yr hyfforddwr. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan yn gyson mewn sesiynau ymarferol trwy gydol eu dwy flynedd i archwilio eu rôl, eu dealltwriaeth o'u hunain a sut maen nhw'n addysgu ac yn cyfathrebu ag athletwyr.
Sut i wneud cais: Rydych yn gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS. Bydd y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’ yn mynd â chi i wefan cyrsiau UCAS.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Cod Cwrs – SP03, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - C, Enw Campws – Campws Chwaraeon Rhyngwladol
Am ragor o wybodaeth ewch i Cwblhau eich cais UCAS.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Mae'r cwrs yn ymdrin â:
Blwyddyn 1- Lefel 4
- Ymchwil ac Ysgoloriaeth
- Addysgeg Pêl-droed Cymhwysol
- Dadansoddi Perfformiad mewn Pêl-droed
- Dysgu Athletwyr mewn Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon
- Cyflwyno Hyfforddi ac Addysgu fel Gweithgareddau Cymdeithasol a Pherthnasol
- Sylfeini Cryfder a Chyflyru
Blwyddyn 2 - Lefel 5
- Dylunio ac Ymarfer Ymchwil
- Addysgeg Pêl-droed Cymhwysol
- Lleoliad Proffesiynol mewn Pêl-droed
- Dadansoddi Perfformiad Pêl-droed a Rôl y Dadansoddwr
- Deall Arferion Hyfforddi Pêl-droed
- Cryfder a Chyflyru
Ar ôl cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus mae'n bosib symud ymlaen i;
- Gyflogaeth
- Prifysgol Fetropolitan Caerdydd er mwyn cael mynediad i'r drydedd flwyddyn gradd anrhydedd tair blynedd fel;
- BSc Hyfforddi Chwaraeon
- BSc Dadansoddiad Perfformiad Chwaraeon
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffioedd Dysgu: £7,500.00
Cit/Deunyddiau : £100.00
Gofynion mynediad
48 pwynt tariff UCAS o naill ai ddau Lefel A (1 mewn maes pwnc perthnasol) neu Ddiploma BTEC Lefel 3 Cenedlaethol neu Ddiploma Estynedig mewn pwnc priodol. Efallai y derbynnir cymwysterau lefel 3 eraill. Efallai caiff myfyrwyr gyda phrofiad gwaith perthnasol eu heithrio rhag gofynion mynediad cyffredin. Mae'n rhaid i holl fyfyrwyr fod yn gymwys mewn iaith Saesneg at safon gyfwerth ag o leiaf gradd 4 (neu C) mewn TGAU Saesneg. IELTS 5.5
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy...
Roeddwn i wedi bod gyda’r Coleg o’r blaen ond roedd hyn yn hollol wahanol a llawn cystal os nad gwell. Rwyf wedi dysgu llawer o’r modiwlau ac mae’r darlithwyr wedi bod yn gymorth gwirioneddol - buaswn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwaraeon. Rwy’n mynd i barhau hyd fy nhrydedd flwyddyn a chael fy ngradd. Ar un adeg fuaswn i erioed wedi meddwl y buaswn i mewn sefyllfa lle roeddwn yn graddio ond dyma fi.
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
1.6%
Ar ôl cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus mae'n bosib symud ymlaen i;
- Gyflogaeth
- Prifysgol Fetropolitan Caerdydd er mwyn cael mynediad i'r drydedd flwyddyn gradd anrhydedd tair blynedd fel;
- BSc Hyfforddi Chwaraeon
- BSc Dadansoddiad Perfformiad Chwaraeon
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu