Mae'r Diploma Lefel 2 VTCT mewn Gwallt a Cholur y Cyfryngau (QCF) yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol i ddysgwyr sy'n awyddus am yrfa fel artist gwallt a cholur cyflogedig a/neu hunangyflogedig. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i seilio ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Therapi Harddwch (colur) a Thrin Gwallt (NOS) fel y cydnabyddir gan gyrff proffesiynol blaenllaw'r DU (Cymdeithas Therapi Harddwch a Chosmetoleg Prydain (BABTAC) a'r Ffederasiwn Therapyddion Holistig (FHT) fel y safonau addas i baratoi dysgwyr am yrfa fel artist gwallt a cholur iau.
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i ddylunio'n benodol i'r grŵp oedran 16-19 a bydd yn datblygu gwybodaeth a sgiliau i baratoi dysgwyr am gyflogaeth fel artist gwallt a cholur iau. Bydd sgiliau trin gwallt a choluro dysgwyr yn cael eu hasesu mewn amgylchedd gweithio go iawn neu realistig.
Bydd gofyn i'r holl ddysgwyr wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) bob amser yn y salonau a'r clinig. Mae'n rhaid i'r dysgwr brynu'r wisg lawn. Mae hyn yn cynnwys tiwnig, trywsus ac esgidiau caeedig fflat.
Bydd y canlynol yn cael eu darparu gan y coleg:
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau sy'n ofynnol i weithio'n effeithiol fel artist gwallt a cholur gan gynnwys: celfyddyd gwisgo gwallt, colur ffotograffiaeth, rhoi colur, gofal cleient, iechyd a diogelwch, creu edrychiad yn seiliedig ar thema. Bydd dysgwyr yn datblygu eu dealltwriaeth a'u sylfaen sgiliau ymhellach drwy ddewis nifer o unedau arbenigol opsiynol sy'n cynnwys: shampŵ a chyflyru'r gwallt a chroen pen, lliwio gwallt gan ddefnyddio lliw gwallt dros dro, rhoi lliw haul ffug ar groen, celf corff, celf ewinedd, paentio wyneb ar sail thema, plethu a throelli gwallt - mae rhestr lawn yr unedau opsiynol i'w chael ym manyleb llyfr Cofnod Asesu (RoA) y dysgwyr.
Mae strwythur y cymhwyster hwn yn rhoi'r hyblygrwydd i ddysgwyr ddatblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau yn ddibynnol ar eu llwybr gyrfa dynodedig fel artist gwallt a cholur iau. Bydd gofyn i chi ymgymryd ag o leiaf 50 awr o brofiad gwaith sy'n gysylltiedig â gwaith, a dylech fod ar gael i deithio'n lleol i gymryd rhan mewn digwyddiadau/profiad gwaith sy'n gysylltiedig â'r diwydiant.
Ar ol cwblhau lefel 2, mae gennych gyfle gwych i ddatblygu i lefel 3 effeithiau arbennig theatraidd, gwallt a'r cyfryngau.
Noder: £30 ffi salon - Yn ogystal â hyn Bydd myfyrwyr angen prynu cit trin gwallt, cit harddwch a’r wisg ar gyfer sesiynau ymarferol, a darperir costau wrth gofrestru.
Ffi Salon: £30.00
3 TGAU Gradd A*-D yn cynnwys Saesneg Iaith (neu gyfwerth). Geirda boddhaol gan Diwtor Cwrs. Fel arall, wedi cyflawni Lefel 1 yn llwyddiannus a geirda boddhaol. Geirda boddhaol gan Ysgol neu Goleg yn dangos ymddygiad, presenoldeb a chynnydd da.
"Rwy’n mwynhau fy nghwrs oherwydd mae’n cymryd lle mewn salon byd go iawn ac rwy’n cael profiad gwaith gyda ddigon o gyfleusterau.”
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i'r Diploma Gwallt a Cholur Theatraidd, Effeithiau Arbennig ac ar gyfer y Cyfryngau. Bydd llawer o fyfyrwyr hefyd yn manteisio ar wahanol gyfleoedd gwaith yn y diwydiant.