Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch

L3 Lefel 3
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws y Barri

Ynghylch y cwrs hwn

*Mae'r cwrs hwn yn aros am gymeradwyaeth gan y sefydliad dyfarnu ar hyn o bryd.*

Bydd y cymhwyster hwn yn darparu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i ddysgwyr ynglŷn â chymysgedd cymhleth o sgiliau ar draws disgyblaethau Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch. Byddai’n addas ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y sectorau Peirianneg a Gweithgynhyrchu.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Gallai unedau astudio gynnwys: Prosiect Peirianneg, Deunyddiau Peirianneg, Six Sigma a Chyfathrebu ar gyfer Technegwyr.

Gofynion mynediad

5 TGAU Gradd A* - C i gynnwys Mathemateg A* - B, Gwyddoniaeth A*-C a Saesneg A*-D Bydd angen PPE ar ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y cwrs hwn, gan gynnwys esgidiau blaen dur ac oferôls.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

1 Medi 2025

Dyddiad gorffen

19 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

18 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

MMCR3F50
L3

Cymhwyster

Advanced Manufacturing Engineering

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn galluogi myfyrwyr i symud ymlaen i’r Diploma Estynedig L3 mewn Gweithgynhyrchu Uwch, yn ogystal â’u paratoi ar gyfer mynediad i brentisiaeth dechnegol neu gyflogaeth.

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ