Mae’r cwrs hwn ar gyfer dysgwyr sy'n gweithio neu sydd eisiau gweithio fel Peintiwr ac Addurnwr yn y sector Adeiladu. Mae'n caniatáu dysgwyr i ddysgu, datblygu a blaenoriaethu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu yrfa fel peintiwr ac addurnwr.
Mae'n caniatáu dysgwyr i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu yrfa fel peintiwr ac addurnwr. Mae'r cwrs yn ymdrin â'r sgiliau canlynol:
Mae gofyn i fyfyrwyr gyflenwi eu hesgidiau diogelwch ac oferôls eu hunain.
Mae angen i ymgeiswyr fod wedi cwblhau 3 TGAU gradd D-G a dangos ymrwymiad a chymhelliant yn ystod y cam cyfweliad. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gyflenwi eu hesgidiau diogelwch ac oferôls eu hunain.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
“Mwynheais ddysgu i ddeall y theori y tu ôl i’r hyn rwy’n ei wneud yn y gweithle, lle gallaf roi’r theori a’r ymarferoldeb ynghyd law yn llaw er mwyn cael y canlyniad gorau ar gyfer fy swydd.”
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn gall dysgwyr symud ymlaen at gwrs sylfaen mewn paentio ac addurno a saernïaeth neu at gwrs sylfaenol adeiladu arall o’u dewis.