Paentio ac Addurno (Dilyniant yn unig)

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae'r cymhwyster wedi’i gynllunio’n bennaf i ddysgwyr ddilyn rhaglen ddysgu llawn amser am flwyddyn. Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sydd wedi cylflawni’r Sylfaen mewn Adeiladu neu sydd â phrofiad o Baentio ac Addurno, neu sydd wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu ei hun.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Bydd pob dysgwr yn cwblhau tair uned graidd orfodol sy’n ymdrin yn gyfannol â chyflogaeth, sgiliau cyflogadwyedd ac arferion adeiladu cyffredinol yn y sector Adeiladu dros amser. Bydd angen i ddysgwyr hefyd ddangos datblygiad eu sgiliau cynllunio a gwerthuso o fewn maes adeiladu.

Bydd gofyn i ddysgwyr astudio'r arbenigedd Paentio ac Addurno yn y sector adeiladu. Bydd dysgwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer y grefft honno, yn ogystal â dyfnhau eu dealltwriaeth o sut mae arfer yn y grefft hon wedi newid, ac yn parhau i newid, dros amser.

Bydd unedau ymarferol i’w cwblhau yn cynnwys

  • Paratoi arwynebau ar gyfer paentio ac addurno
  • Gosod haenau arwyneb gyda brws neu rolbren
  • Gosod Papur Wal

Bydd angen i ddysgwyr sy’n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn gael cyfweliad gyda staff arbenigol o fewn yr adran adeiladu.

Gofynion mynediad

3 TGAU gradd A* - C neu'n gweithio yn y diwydiant adeiladu ar hyn o bryd. Dymunol ar gyfer cwblhau Diploma L1. Mae'r cynnig yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus gyda'r adran.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiadau ymarferol ac ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

19 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

PDCC2F04
L2

Cymhwyster

City & Guilds Progression in Construction (Level 2)

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Rwyf wedi mwynhau bod o gwmpas Campws Canol y Ddinas, mae'n amgylchedd braf ac mae pawb yn cyd-dynnu'n dda. Uchafbwynt fy amser yn y coleg oedd gwneud ffrindiau newydd a'r amgylchedd gwahanol i'r ysgol. Gallwch ennill sgiliau newydd a gwneud pethau nad oeddech yn meddwl y gallech eu gwneud o'r blaen.

David Warner
Paentio ac Addurno Lefel 2

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

£30,000

Yn ôl data Lightcast 2022, mae disgwyl i’r sector adeiladu dyfu 9.1% ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd rhwng 2022-2026, gyda chyflog cyfartalog o dros £30,000 y flwyddyn.

BTEC L3 Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig neu’n arwain at brentisiaeth.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

DB2,
Campws Canol y Ddinas,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE