Mae'r cymhwyster wedi’i gynllunio’n bennaf i ddilyn rhaglen ddysgu lawn amser am flwyddyn. Mae wedi’i anelu at ddysgwyr sydd wedi cylflawni’r Sylfaen mewn Adeiladu
Bydd pob dysgwr yn cwblhau tair uned graidd orfodol sy’n ymdrin yn gyfannol â chyflogaeth, sgiliau cyflogadwyedd ac arferion adeiladu cyffredinol yn y sector Adeiladu dros amser. Bydd angen i ddysgwyr hefyd ddangos datblygiad eu sgiliau cynllunio a gwerthuso o fewn maes adeiladu.
Bydd gofyn i ddysgwyr astudio'r arbenigedd Paentio ac Addurno yn y sector adeiladu. Bydd dysgwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer y grefft honno, yn ogystal â dyfnhau eu dealltwriaeth o sut mae arfer yn y grefft hon wedi newid, ac yn parhau i newid, dros amser.
Bydd angen i ddysgwyr sy’n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn gael cyfweliad gyda staff arbenigol o fewn yr adran adeiladu.
3 TGAU gradd A* - C neu’n gweithio ar hyn o bryd o fewn y diwydiant adeiladu.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mwynheais ddysgu i ddeall y theori y tu ôl i’r hyn rwy’n ei wneud yn y gweithle, lle gallaf roi’r theori a’r ymarferoldeb ynghyd law yn llaw er mwyn cael y canlyniad gorau ar gyfer fy swydd.
BTEC L3 Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig neu’n arwain at brentisiaeth.