DPP MOT Cerbydau GRŴP B (dosbarth 3, 4, 5 a 7)

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni am ddyddiadau
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r cwrs 1 Diwrnod hwn wedi’i ddylunio ar gyfer profwyr MOT cyfredol sy’n profi cerbydau Grŵp B (dosbarth 3, 4, 5 a 7). 


Bydd y cwrs yn ymdrin â phynciau DPP 2023-24 ac yn cofnodi hyfforddiant blynyddol ar gyfer y flwyddyn, yna cynhelir yr Asesiad Blynyddol sy'n ofynnol i gydymffurfio â gofynion y DVSA a chadw statws Profwr Enwebedig. 


Bydd hefyd yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr wella sgiliau wrth ddod o hyd i wybodaeth yn gyflym o’r Llawlyfr Profion MOT a’r Canllaw Profi MOT. Y marc llwyddo ar gyfer yr asesiad blynyddol yw 80%.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Cofrestru cerbyd ar gyfer prawf
• adnabod y cerbyd a dosbarth y cerbyd yn gywir
• beth i’w wneud os nad yw rhif adnabod y cerdyd (VIN) neu'r rhif cofrestru yn cyfateb
• p’un a allwch brofi’r cerbyd os byddwch yn dod o hyd i nam yn ystod rhag-wiriad, er enghraifft os na fydd y drws neu gaead tanwydd yn agor
• beth i’w wneud os yw’r cerbyd wedi cael ei gofrestru’n anghywir ar gyfer prawf
• beth i’w wneud os yw’r cofrestriad anghywir wedi’i gofnodi
• beth i’w wneud os na all y cerbyd ffitio ar eich offer oherwydd ei sylfaen olwynion, pellter rhwng olwynion, bod y cerbyd wedi’i ostwng, hyd y cerbyd neu ei faint
• beth i’w wneud os nad yw milltiredd y cerbyd yn glir
• beth i’w wneud os yw lliw y cerbyd yn anghywir a sut i newid y cofnod o’i liw
• beth i'w wneud os sylwir bod yr amrywiad model yn anghywir yn ystod y prawf cyntaf
• sut i greu prawf newydd (prawf cyntaf)
• Platiau Q
Defnyddio offer
• calibradu offer
• beth i’w wneud os yw’r offer yn rhoi’r gorau i weithio
• beth i'w wneud os nad yw offer cysylltiedig yn gweithio’n iawn (cerbydau dosbarth 4 a 7 yn unig)
• beth i'w wneud pan anfonir y mesurydd arafu i’w galibradu
• profi yn y modd â llaw (cerbydau dosbarth 4 a 7 yn unig)
• sut i godi neu jacio cerbydau
• alinio offer priflampau/pellter o’r profwr pelydrau
Gweithdrefnau profi
• beth i’w wneud os caiff y cerbyd ei ddifrodi yn ystod y prawf
• beth i’w wneud os yw'r patrymau priflampau ar y cerbyd yn wahanol i’r rhai yn y llawlyfr priodol
• pa wiriadau a safonau sy’n berthnasol i gerbydau sydd ag olwynion sbôcs
• pa safonau i’w cymhwyso i blatiau Q (dyddiad defnydd cyntaf, corn, mwg allyriadau (cerbydau dosbarth 4 a 7 yn unig))
• p’un a allwch brofi’r cerbyd os nad yw’r drws neu gaead tanwydd yn agor yn ystod y rhag-wiriad
Llawlyfr archwiliad MOT
• gwrthod prawf
• pryd i roi’r gorau i brawf, p’un a ellir codi ffi, a pha gamau i’w cymryd os na ellir cwblhau’r prawf
• p’un a ellir gwrthod cerbyd os yw'r cerbyd wedi’i eithrio rhag cael ei brofi ond bod y cwsmer yn dal i fod eisiau cael ei brofi
• beth sy’n digwydd os bydd cerbyd sydd wedi'i eithrio yn methu ei brawf MOT
• MOTs ar gyfer cerbydau heb oleuadau wedi'u ffitio
• canfod gollyngiadau olew injan yn ystod rhag-wiriad
• gollyngiadau batri (safonol a hybrid/trydan llawn)
• beth y gellir ei wneud os cafodd cerbyd ei brofi ar gam gan y VTS cyn yr oedd i fod i gael ei gyflwyno (er enghraifft, cerbyd blwydd oed gyda phlât preifat wedi’i brofi gan y safle drwy gamgymeriad)
• beth i’w wneud os oes gan gerbyd fwy nag un VIN gwahanol ond ei fod yn ymddangos yn safonol ym mhob agwedd arall
• ei fod wedi'i adeiladu mewn mwy nag un cam neu wedi cael ei drawsnewid (cartref modur dosbarth 4 a 7 yn unig)
• p’un a allwch chi fod yn brofwr os byddwch yn colli eich trwydded oherwydd cyflwr meddygol
• beth i’w wneud os bydd cwsmer yn gofyn am brawf MOT ar gyfer cerbyd sydd â hysbysiad gwahardd gan yr heddlu neu’r DVSA arno
• beth i’w wneud os nad yw'r cyflwynydd yn gwybod pwysau neu allbwn pŵer y cerbyd
• beth i’w wneud os nad yw dyfais lefelu priflampau ar garafán modur yn gweithio
• llwyth eithaf teiars cerbyd dosbarth 7, pwysau echelau a graddfa cyflymder
• p’un a ellir profi car dros 3000kg ar safle dosbarth 4
• p’un a ellir profi carfanau modur ar safle dosbarth 4
• uchafswm pwysau di-lwyth cerbydau pwrpas deuol
• p’un a ellir profi cerbyd codi gyda 5ed olwyn arno fel dosbarth 4 neu 7
• ym mha ddosbarth o gerbydau fyddai bws mini 8 sedd teithiwr a thraciau ar gyfer 6 chadair olwyn ychwanegol
• gwirio cerbydau a fewnforir nad oes modd gosod plât rhif safonol arnynt
Mae angen treulio o leiaf 3 awr ar y pynciau uchod a rhaid i’r profwr MOT gadw cofnod o’r hyfforddiant hwn i’w archwilio gan y DVSA.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr dan 18 oed
  • Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau
  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymrwymedig i gynhwysedd ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cyfle cyfartal ac i drin pawb yn deg a chyda pharch
  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
  • Mae'r holl gyrsiau'n gywir ar adeg eu lanlwytho neu eu hargraffu
  • Ni allwn redeg cyrsiau heb nifer digonol o fyfyrwyr
  • Sylwer: os dewiswch dri neu fwy o ddewisiadau cwrs, yna fe allech chi gael eich cyfeirio at apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00

Ffi Cwrs: £75.00

Gofynion mynediad

Bydd angen Trwydded Profwyr MOT ag Achrediad Llawn ar gyfer Dosbarthiadau perthnasol. Mae hwn yn gwrs datblygiad proffesiynol parhaus blynyddol.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni am ddyddiadau

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

6 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSMOTCPDP1
L3

Cymhwyster

CAVC Certificate

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

18,000

Mae gan Gymru tua 8% o ddiwydiant gweithgynhyrchu modurol y DU ac mae ganddi weithlu medrus o 18,000 o bobl a throsiant blynyddol o £3 biliwn.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Y Ganolfan Foduro, 
Campws Canol y Ddinas, 
Heol Dumballs, 
Caerdydd, 
CF10 5FE