Bydd y sesiwn rhyngweithiol Hyfforddi’r Hyfforddwr hon yn archwilio’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen er mwyn cynllunio, darparu ac asesu hyfforddi er mwyn bodloni anghenion y busnes.
Diddordeb? Agorwch yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth cyn i chi ymgeisio!
Darperir y cwrs hwn ar-lein drwy Microsoft Teams o 9:30am - 1pm.
Bydd y sesiwn hynod fyfyriol hon yn:
Herio eich gwybodaeth gyfredol ynglŷn â rôl a chyfrifoldebau hyfforddwr
Archwilio’r rôl hyfforddiant mewn sefydliad
Adnabod dulliau ac arfau ymarferol sydd eu hangen er mwyn gallu darparu sesiwn ysgogol o fewn y dosbarth ac yn rhithiol
Cymharu’r gwahanol ffyrdd y mae cydweithwyr yn dysgu
Gwerthuso effeithiolrwydd eich sesiynau hyfforddi yn effeithiol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.