Astudiwch ein cwrs un-dydd rhad ac am ddim i gael dealltwriaeth well o reoli gwastraff yn y diwydiant teledu. Dysgwch sut y gallwn chwarae ein rôl i achub y planed.
Yn cael ei gyflwyno gan arbenigwyr y diwydiant, Screen Alliance Wales, mae’r cwrs ymarferol 1 diwrnod hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol o bob lefel yn y diwydiant creadigol, sydd wedi ei gynllunio ar gyfer gwella rheoli gwastraff yn y diwydiant Teledu.
Bydd cyfranogwyr yn cynyddu eu dealltwriaeth ar effaith amgylcheddol eu gwaith, deall rhwymedigaethau cyfreithiol a dysgu strategaethau ymarferol ar gyfer lleihau cynhyrchu gwastraff.
Cynhelir y cwrs yn Wolf Studios Wales ar y dyddiadau canlynol:
Wedi'i ariannu'n llawn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae'r cwrs hwn AM DDIM i'w fynychu.
Yn ystod y diwrnod, bydd pynciau a drafodir yn cynnwys:
Darperir lluniaeth a chinio, a chyfle am daith o amgylch Wolf Studios Wales yng Nghaerdydd yn ystod y diwrnod.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18+ oed ac yn byw neu’n gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg. Ni all ymgeiswyr fod mewn addysg llawn amser.
Mae’r cwrs yma wedi ei ddylunio ar gyfer unigolion sy’n gweithio yn y Sector Creadigol, yn benodol yn y diwydiant teledu.
Darparwch dystiolaeth o’ch oedran a’ch cyfeiriad wrth ymgeisio am le. E.e. Trwydded Yrru neu Basbort a Bil Cyfleustod.
Wyneb yn wyneb yn y dosbarth. Nid yw’r cwrs yn cynnwys asesiad ffurfiol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau, bydd gan gyfranogwyr wybodaeth a sgiliau i allu cyfrannu’n weithredol i ymdrechion lleihau gwastraff er mwyn sicrhau amgylchedd cynhyrchu teledu mwy cynaliadwy a chyfeillgar i’r amgylchedd.