Mae’r rhaglen Bŵtcamp Dadansoddeg Data mewn Busnes wedi’i dylunio ar gyfer graddedigion diweddar i’w helpu i oresgyn rhwystrau sy’n gysylltiedig â sgiliau a sicrhau cyflogaeth yn y sector Dadansoddeg Data.
Ar draws y sesiynau teilwredig hyn a gyflwynir gan Iungo Solutions, byddwch yn datblygu sgiliau dehongli, dadansoddi a chyfathrebu gan ddefnyddio data. Ochr yn ochr â hyn, cewch gyfle i fynychu gweithdai cyflogadwyedd, sgiliau cyfweld a rhwydweithio i annog cyflogaeth neu ddyrchafiad ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.
Amserlen Cyflwyno:
Bwriedir y cwrs rhan amser hwn ar gyfer graddedigion diweddar a bydd yn cael ei gynnal 3 diwrnod yr wythnos am 3 wythnos. Cynhelir y sesiynau yng nghanolfan ddarparu Iungo Solutions yn ardal Cathays rhwng 9:30am a 4:30pm bob dydd.
Drwy gydol y rhaglen byddwch yn anelu tuag at Gymhwyster Lefel 3 Agored Cymru mewn Dadansoddi Data, ac mae’r modiwlau’n cynnwys:
Law yn llaw â’r modiwlau hyn ceir hyfforddiant ar gyflogadwyedd a fydd yn cynnwys cyfleoedd i rwydweithio a hyfforddiant un-i-un.
Cyflwynir y sesiynau mewn ystafell ddosbarth ac asesir drwy waith drwy gydol y rhaglen gan arwain at Gymhwyster Lefel 3 mewn Dadansoddi Data. Mae yna arholiad Power BI ar-lein hefyd.
Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ac mae ar agor i amrywiaeth o ymgeiswyr, cyn belled â’u bod yn byw/gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cyn ichi gael eich derbyn ar y cwrs, bydd yn rhaid ichi gymryd rhan mewn cyfweliad boddhaol dros y ffôn gyda Iungo Solutions. Rhaid i’r ymgeiswyr fod dros 18 oed a rhaid iddynt fyw neu weithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, a Bro Morgannwg.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau'r bŵtcamp hwn yn llwyddiannus, byddwch yn gallu rhoi’r hyn a ddysgwyd ar waith yn y gweithle yn ogystal ag adeiladu ar y sgilliau newydd hyn.