Protocolau ystafell lân

L3 Lefel 3
Rhan Amser
Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.
Ar-lein

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu gan Brifysgol Gaerdydd ac mae'n rhoi trosolwg o sut beth yw gweithio mewn amgylchedd ystafell lân ar gyfer gwaith cynhyrchu graddfa fechan iawn. Mae'n cwmpasu arferion gweithio arferol yn ogystal ag egwyddorion cyffredinol gweithio'n ddiogel.

Datblygwyd y cwrs hwn gan y Brifysgol mewn cydweithrediad gyda phartneriaid o fewn y diwydiant o'r clwstwr CSconnected, y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf o’i fath yn y byd, wedi'i leoli o amgylch de Cymru yn y Deyrnas Unedig.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae cynnwys y cwrs hwn yn berthnasol i ystafelloedd glân ar gyfer gwaith cynhyrchu nanoraddfa.

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:

  • disgrifio'r gwahanol ddosbarthiadau o gyfleusterau ystafelloedd glân, o ISO1-9 a'r hyn sydd yn gyfwerth
  • egluro pam mae ystafelloedd glân yn angenrheidiol a pham mae gwahanol fathau o ystafelloedd glân yn bodoli
  • deall sut mae ystafell lân arferol yn gweithio
  • gwybod beth yw'r egwyddorion sylfaenol sydd eu hangen er mwyn cael mynediad i amgylchedd ystafell lân a gweithio ynddo
  • egluro pam mae'r egwyddorion hynny’n bwysig
  • disgrifio risgiau iechyd a diogelwch cyffredinol gweithio mewn ystafell lân arferol
  • gwybod sut i liniaru risgiau iechyd a diogelwch cyffredinol a delio gyda digwyddiadau diogelwch cyffredinol

Addysgu ac asesu

Mae hwn yn gwrs ar-lein y gallwch ymgymryd ag o yn eich amser eich hun. Bydd yr hyfforddiant yn cymryd oddeutu un awr i'w gwblhau. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy amrywiaeth o weithgareddau ar-lein a rhyngweithiol megis fideos byrion, a phrofiad 3D rhithiol o ystafell lân, ac ymarferion profi-eich-gwybodaeth.

Bydd gennych fynediad am 1 mis o'r dyddiad y byddwch yn cyrchu'r deunyddiau dysgu am y tro cyntaf. Does dim elfen fyw ond mae yna gyfleuster sy'n galluogi i gwestiynau gael eu cyflwyno i'r tiwtor. Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy lwyfan dysgu rhithiol y Brifysgol, Learning Central. Bydd eich manylion mewngofnodi unigol yn cael eu hebostio atoch ychydig ddyddiau cyn i'ch mynediad i’ch cwrs ddechrau. Bydd Tystysgrif Cwblhau CPD yn cael ei gyflwyno i ddysgwyr sy'n cyflawni 70% neu fwy yn y prawf ar ddiwedd y cwrs. Mae hwn yn brawf aml-ddewis.

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol i'r cwrs hwn. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unrhyw un o'r canlynol: · rhai sy'n newydd i'r diwydiant lled-ddargludo, neu rai sy'n ystyried gyrfa yn y sector · rhai sy'n gweithio yn y sector lled-ddargludyddion sy'n dymuno gwella eu gwybodaeth o'r hyn ddylid ei wneud, ac na ddylid ei wneud, mewn ystafell lân · rhai sydd â'u bryd ar ailhyfforddi i mewn i'r sector lled-ddargludyddion/ lled-ddargludyddion cyfansawdd · rhai sy'n cefnogi'r sector - er enghraifft cyflenwyr i'r sector a allai fod angen mynediad i'r ystafell lân · gweithwyr proffesiynol gyrfa gynnar neu ar ganol eu gyrfa sy’n awyddus i wella eu hunain neu gael newid gyrfa · graddedigion diweddar sy’n anelu at feddu ar sgiliau perthnasol i fynd i'r sector Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18+ oed ac yn byw neu’n gweithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cysylltwch â ni i gael dyddiadau.

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

1 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

GPEXCPP01
L3

Cymhwyster

Cleanroom Protocols

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Mae'r cwrs hwn yn rhan o gyfres gynyddol o gyrsiau hyfforddiant a gynlluniwyd er mwyn cefnogi'r sector lled-ddargludyddion cyfansawdd ar hyd a lled de Cymru.

Mae'n bosib y byddai gennych chi hefyd ddiddordeb mewn cyrsiau perthnasol, megis 'Cyflwyniad i Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd' a 'Cyflwyniad i Ffotoneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd'.