Cyflwynir y cwrs hwn gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro a PRC yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i ariannu 10 lle ar y rhaglen arloesol hon i gefnogi unigolion yng Nghymru i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r economi gylchol a chreu cynlluniau arloesi i gefnogi twf glân a chyfrannu at uchelgeisiau Sero Net Llywodraeth Cymru.
Bydd y rhaglen yn cynnwys rhwydwaith o bobl o'r un anian o bob rhan o'r rhanbarth yn dysgu sut i weithredu Egwyddorion Economi Gylchol o fewn sefydliad.
Lleoliad: Adeilad Rheolaeth Ysgol Reolaeth Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Rhodfa’r Gorllewin, Caerdyff, CF5 2YB
Gellir gweld rhestr lawn o ddyddiadau yma.
Byddwch yn ymuno â phobl o amrywiaeth o sefydliadau ac yn cymryd rhan mewn rhaglen o weithdai rhyngweithiol, sy'n canolbwyntio ar allbwn dros 6 mis. Byddwch yn dysgu dulliau ac offer arloesi sy'n gwella cynhyrchiant, yn cynyddu boddhad cwsmeriaid ac yn darparu buddion Economi Gylchol. Byddwch yn cael eich cefnogi i ddatblygu cynlluniau arloesi y gellir eu gweithredu a'u cyfeirio at gyllid arloesi. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio ar gyfer pobl sy'n gallu dylanwadu ar wasanaeth a datblygu cynnyrch.
Mae'r rhaglen yn cynnwys:
Gweithdai misol i ddatblygu sgiliau arloesi ac adeiladu rhwydweithiau cryf i gefnogi datblygiad cynllun arloesi
Cymorth Ymchwil a Datblygu gan WRAP Cymru a staff y Brifysgol
Cefnogaeth mentora 1 i 1
Mae'r canlyniadau'n cynnwys:
Gwell gwybodaeth a sgiliau arloesi
Datblygu gwybodaeth Economi Gylchol
Cynllun Twf Glân / cynllun sero net
Cynllun Arloesi
Aelodaeth Rhwydwaith Arloesi
Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Bydd angen i’r ymgeiswyr wneud cais trwy glicio ar y ddolen ar y dudalen hon a byddant yn cael eu sgrinio gan Met Caerdydd i sicrhau eu bod yn addas. Anelir y cwrs hwn at reolwyr neu unigolion a bennir gan eu cwmni – rhai a all ddylanwadu ar y modd y datblygir gwasanaethau a chynhyrchion. Rhaid ichi allu mynychu’r sesiynau ar yr holl dyddiadau. Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn 18+ oed a rhaid iddynt fyw neu weithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg. Ni ddylai’r ymgeiswyr fod mewn addysg amser llawn na bod yn wirfoddolwyr.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno drwy fynychu gweithdai misol (gan gynnwys Digwyddiad Dysgu drwy Brofiad dros nos)
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.