Mae’r cymhwyster gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn rhaglen o gyrsiau carlam sy’n cynnwys cymhwyster lefel 1 a 2. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr a ddymuna ddatblygu’n gyflym i’r gweithle, ac mae’n cynnig cyfle i ddysgwyr ddatblygu sgiliau gofal a chyflogadwyedd ysgafn, ynghyd â phrif elfennau’r cymhwyster iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd dysgwyr yn astudio Cydraddoldeb ac amrywiaeth, cyfathrebu, a sgiliau datblygu personol gydag egwyddorion gofalu am oedolion a phobl ifanc, diogelu ac iechyd, llesiant, dysgu a datblygu.
3 TGAU gradd A*-C gyda D mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg Gwaith a gradd D mewn Mathemateg.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae’r cwrs wedi rhoi profiad gwerthfawr, ymarferol i mi ym maes gofal iechyd a chefais gefnogaeth fy athrawon drwy gydol fy amser yma. Mae’r cyfleusterau yn wych ac rydym wastad yn defnyddio’r offer diweddaraf, sy’n bodloni safonau’r diwydiant. Mae’r Coleg hefyd wedi rhoi cysylltiadau trafnidiaeth hygyrch i mi, sy’n golygu y gallaf gyrraedd a gadael y campws yn ddidrafferth. Rwy’n edrych ymlaen at fy nyfodol, ac yn awyddus i fynd ymlaen i Lefel 3 y flwyddyn nesaf ac yna dechrau gweithio yn y sector.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, gall dysgwyr symud at gwrs dysgu’n seiliedig ar waith er mwyn ehangu eu sgiliau gofal ymarferol ymhellach o fewn y gweithle.