Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

L3 Lefel 3
Llawn Amser
1 Medi 2025 — 19 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant Lefel 3: Mae'r cymhwyster Arfer a Theori yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant gyda'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio yn y sector hwn. Mae wedi ei ddylunio’n bennaf i ddysgwyr ôl-16 mewn addysg bellach sydd:

  • â diddordeb mewn gweithio mewn rôl oruchwylio yn y sector gofal plant
  • astudio, neu wedi cwblhau Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Cymhwyster craidd
  • dychwelyd i’r gweithle yn dilyn seibiant mewn gyrfa ac eisiau gloywi eu gwybodaeth a’u sgiliau yn y sector Gofal Plant.

Mae’r cymhwyster hwn yn addas i ddysgwyr sydd wedi cyflawni cymhwyster gofal plant Lefel 2 yn cynnwys Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant Lefel 2: Arfer a Theori neu sydd â gwybodaeth flaenorol o’r sectorau gofal, chwarae, dysg a datblygiad plant.

Mae’n ofynnol i ddysgwyr gwblhau isafswm o 700 awr o brofiad gwaith i gyflawni’r cymhwyster hwn.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Byddwch yn astudio:

  • Arfer craidd mewn gofal, chwarae, dysg a datblygiad plant.
  • Twf a datblygiad
  • Maeth a hydradiad mewn blynyddoedd cynnar
  • Ymateb i salwch plentyndod
  • Egwyddorion a theorïau sy’n cael dylanwad ar ofal, chwarae, dysg a datblygiad plant yn yr 21 ganrif yng Nghymru
  • Ymchwilio i faterion gofal, chwarae, dysg a datblygiad plant presennol yng Nghymru
  • Bagloriaeth Cymru.

Gofynion mynediad

Hanfodol: 5 TGAU A* i C. C mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith, C mewn Mathemateg (rhifedd heb ei dderbyn, fodd bynnag gellir derbyn cymhwyster AON lefel 3 Sgiliau Hanfodol Cymru yn lle mathemateg) Gwiriad DBS manylach clir.

Addysgu ac Asesu

Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant Lefel 3: Asesir cymhwyster Arfer a Theori drwy 70% o asesiad mewnol a 30% o asesiad allanol. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • cyfres o dasgau a osodir yn allanol sy'n cael eu marcio'n fewnol
  • portffolio o dystiolaeth
  • trafodaeth gyda’u hasesydd
  • arholiad allanol
  • ymchwiliad sydd wedi’i osod a'u marcio'n allanol.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Mae fy nhiwtoriaid wedi bod mor gefnogol a hyfryd. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, rwy’n gobeithio symud ymlaen i’r brifysgol i ddod yn athrawes ysgol gynradd gymwys.”

Jessica Thomas
myfyriwr Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

103,500

Ar hyn o bryd, mae bron i 103,500 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a disgwylir i’r niferoedd cyflogaeth gyrraedd 105,000 erbyn 2027 (Lightcast 2022).

Cwblhau Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant Lefel 3: Mae cymhwyster Arfer a Theori yn darparu sylfaen addas i astudio blynyddoedd cynnar a gofal plant drwy ystod o gyrsiau addysg uwch, neu brentisiaethau.