Mae cyrsiau TAG Safon Uwch CBAC mewn Gofal Plant yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau trylwyr a manwl i fyfyrwyr sy'n ymwneud â datblygiad a gofal unigolion drwy gydol eu hoes, o'u cenhedlu hyd nes y byddant yn oedolion hŷn. Mae dysgwyr yn cael y cyfle i ddatblygu eu dealltwriaeth o ddylanwadau ar dwf, datblygiad, ymddygiad a lles dynol. Byddant hefyd yn ennill dealltwriaeth fanwl o anghenion cymdeithasol, corfforol, emosiynol a diwylliannol pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, ac yn cydnabod bod gan bob unigolyn gyfuniad unigryw o alluoedd ac anghenion. Bydd dysgwyr yn ennill dealltwriaeth drylwyr o sut mae darparu gwasanaethau yng Nghymru yn cefnogi datblygiad a llesiant unigolion, i allu gwneud penderfyniadau gwybodus nawr ac yn ddiweddarach mewn bywyd.
Mae’r cwrs Gofal Plant Safon Uwch yn cynnwys nifer o fodiwlau gwahanol yn cynnwys:
Hanfodol: 5 TGAU A* i C. C mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith, C mewn Mathemateg (rhifedd heb ei dderbyn, fodd bynnag gellir derbyn cymhwyster AON lefel 3 Sgiliau Hanfodol Cymru yn lle mathemateg)
Mae’r coleg wedi rhoi i mi’r sgiliau i wella fy ngwybodaeth drwy ddosbarthiadau a phrofiadau gwaith, gan fy nghaniatáu i ennill profiadau go iawn yn ogystal â chyfleoedd.
Cyrsiau Addysg Uwch