Ydych chi’n awyddus i ddechrau, hybu neu newid eich gyrfa mewn gwasanaethau ariannol?
Wedi’i ariannu’n llawn gan Multiply, mae'r Academi Gwasanaethau Ariannol hon wedi’i dylunio ar y cyd gyda sefydliadau ariannol arweiniol er mwyn darparu’r ystod o sgiliau sydd ei hangen i ddechrau gweithio ym maes gwasanaethau proffesiynol.
A oes gennych chi ddiddordeb? Cliciwch ar yr is-benawdau isod i ddysgu mwy am gynnwys, darpariaeth a meini prawf cymhwysedd y cwrs!
Darperir y cwrs ar y safle o 9.30am – 4pm, bob dydd am gyfnod o 4 wythnos.
Mae dyddiau hyfforddiant a gweithdai wedi cael eu dylunio i feithrin eich gwybodaeth, hyder a sgiliau sydd ar fryd cyflogwyr o fewn y sector, yn ogystal ag ennill cymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant fel Dyfarniadau Arbenigol Microsoft Office (Word, Excel, PowerPoint) a Dyfarniadau City & Guild.
Unedau Sgiliau Cyflogadwyedd:
Cyfathrebu yn y gweithle
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Sgiliau Cyfweld
Paratoi i arwain tîm
Sgiliau cefnogol eraill