Ymarfer Paragyfreithiol

L3 Lefel 3
Rhan Amser
9 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae Tystysgrif Lefel 3 NALP mewn Ymarfer Paragyfreithiol wedi’i fwriadu ar gyfer rhai sydd â’u bryd ar fod yn baragyfreithiwr neu rai sydd â pheth profiad paragyfreithiol ac sydd am symud ymlaen gyda’u gyrfa yn y sector cyfreithiol.

NALP yw’r National Association of Licensed Paralegals sy’n gorff aelodaeth proffesiynol ar gyfer Paragyfreithwyr. Mae NALP yn ymdrechu i sicrhau bod ei aelodaeth yn cael eu cydnabod fel rhan allweddol o’r proffesiwn cyfreithiol o ran ansawdd ei gymwysterau a datblygiad proffesiynol.

Mae NALP yn annog, hyrwyddo a datblygu rôl ac ymarfer y paragyfreithiwr ac mae’n cynrychioli buddiannau gorau ei aelodau. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r Dystysgrif yn darparu ystod eang o wybodaeth am ymarfer Paragyfreithiol gan gynnwys gwybodaeth fanwl am y system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr ac egwyddorion cyfreithiol cyffredinol Cyfraith Cytundebau.

Byddwch yn astudio’r broses ddeddfu, strwythur y llys, rolau staff cyfreithiol allweddol a dulliau o ddatrys anghydfod. Yn ogystal, byddwch yn dysgu am gyfrifoldebau’r paragyfreithiwr mewn perthynas â gofal cwsmer trwy ddatblygu dealltwriaeth drylwyr o ddulliau priodol o ymddygiad proffesiynol priodol a bod yn barod i ymgymryd ag anghenion gofal cwsmer mewn unrhyw sefyllfa.

Cyfleusterau

Mae’r cwrs yn cael ei gefnogi gan ystod o adnoddau ar-lein sy’n cael eu darparu gan Mindful Education a’r Coleg.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Arholiad : £250.00

Ffi Cwrs: £400.00

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

9 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

BSCC3P03
L3

Cymhwyster

NALP Certificate in Paralegal Practice

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

7%

Erbyn 2025, rhagwelir y bydd y diwydiant hwn yn tyfu 7% ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan arwain at 2,500 o swyddi ychwanegol. (Lightcast 2021).

Unwaith y bydd y cwrs wedi ei gwblhau yna gallwch chwilio am waith fel paragyfreithiwr a pharhau gyda’ch addysg gyfreithiol trwy ymgymryd ag astudiaethau pellach ar gwrs  NALP lefel uwch neu ddarparwyr addysg gyfreithiol arall megis CILEx.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE