Mae’r cwrs hwn ar gyfer peirianwyr plymio a gwresogi sydd eisiau gosod Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig, a bydd yn dangos eu cymhwysedd fel bod modd iddynt naill ai ymuno â Chynllun Unigolion Cymwys sy’n eu galluogi i hunan-ardystio gosodiadau, neu hysbysu’r adran Rheolaeth Adeiladu leol cyn dechrau gwaith.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer Cymru/Lloegr yn cwmpasu Dogfen Gymeradwy G3, Rhan L1 a Rhan P y Rheoliadau Adeiladu.
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys pedwar modiwl:
Mae’r asesiadau’n cynnwys cyfuniad o arholiadau ymarferol a theori.
Mae’r cwrs cynhwysfawr yn dechrau gyda hyfforddiant dwys yn y pedwar modiwl, ac wedyn cwblhau tri asesiad gan gynnwys un ymarferol. Rhaid i’r ymgeiswyr lwyddo yn y tri asesiad er mwyn sicrhau tystysgrif Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig BPEC a cherdyn cymhwysedd.
Mae’n caniatáu i’r unigolyn/busnes gofrestru gyda chynllun unigolion cymwys sydd yn caniatáu hunan-ardystio gosodiadau systemau storio dŵr poeth heb awyrell.
Os byddwch chi’n dewis peidio ag ymuno â chynllun Unigolion Cymwys, bydd angen i chi hysbysu’r adran Rheolaeth Adeiladu leol.
Ffi Arholiad : £92.70
Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00
Ffi Cwrs: £96.30
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.