Teilsio Waliau a Lloriau gyda Phaentio ac Addurno - Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

 Mae'r cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig yn darparu cyflwyniad eang i adeiladu a'r amgylchedd adeiledig. Cafodd ei ddatblygu ar gyfer unigolion sy'n gweithio ar hyn o bryd, neu'n bwriadu gweithio yn y sectorau.

Mae wedi'i dargedu at y rhai sydd wedi gadael ysgol neu ddysgwyr sy'n dysgu yn seiliedig ar waith, mewn addysg bellach, ac yn y chweched dosbarth mewn ysgolion. Bydd y cymhwyster yn galluogi myfyrwyr i fynd ymlaen i astudio ystod o gyrsiau eraill ym maes adeiladu a BSE sy'n berthnasol i’r maes crefft sydd o ddiddordeb iddynt. Gellir ei ddilyn naill ai fel rhaglen ddysgu lawn amser a ddarperir fel arfer dros flynedd, neu fel rhaglen ddysgu ran amser fel rhan o fframwaith prentisiaeth. Bydd darpariaeth y cwrs yn rhannu ei sylw rhwng y ddwy grefft yn gydradd.  

Paentio ac Addurno: Bydd y rhan hon o'r cwrs yn dangos i chi sut i baratoi arwynebau noeth a rhai sydd eisoes wedi'u paentio, a rhoi haenau dŵr a thoddol gyda brwsh a rholbren ar arwynebau syml. O fewn yr uned, dysgir sut i ddefnyddio offer mynediad a llwyfannau gweithio i gwblhau’r tasgau hyn.  

Teilsio Waliau a Lloriau: Bydd y rhan hon o’r cwrs yn dangos i chi sut i gael dealltwriaeth a phrofiad ymarferol o deilsio waliau a lloriau yn y diwydiant adeiladu.  Mae'r cymhwyster yn cynnwys ystod o sgiliau a thasgau ymarferol yn ymwneud â thorri a gosod teils waliau a lloriau.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd pob dysgwr yn cwblhau unedau craidd sy'n eu cefnogi i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth gychwynnol o:
gyflwyniad i'r sectorau adeiladu a'r amgylchedd adeiledig
cylch bywyd yr amgylchedd adeiledig, a'r swyddi oddi mewn iddo, a'r dibyniaethau rhwng y bobl sy'n gwneud y swyddi hynny
sut i hyrwyddo a chynnal iechyd a diogelwch drosoch chi eich hun ac eraill; a
sgiliau cyflogadwyedd sy'n berthnasol ar gyfer gwaith yn y dyfodol.
Yn ogystal â'r unedau 'craidd' hyn, bydd dysgwyr yn astudio dau lwybr masnachu ac yn treulio amser yn dysgu sgiliau newydd, fydd yn cynnwys cynllunio, perfformio, a gwerthuso tasgau cyffredin.        

Byddwch yn astudio yn ein canolfannau adeiladu sydd â chyfleusterau pwrpasol. Mae'r rhain yn cynnwys dosbarthiadau ar gyfer gwaith theori a gweithdai penodol i ddiwydiant enfawr lle byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol bob wythnos gan ddefnyddio offer safonol y diwydiant.

Bydd eich asesiad cwrs yn cynnwys aseiniadau gosod a ddefnyddir i fesur eich datblygiad sgiliau ac asesiad diwedd blwyddyn, gan gynnwys profion sgiliau ymarferol ac arholiadau ar-lein.

Yn ychwanegol mae gofyn i ddysgwyr gael eu hesgidiau diogelwch eu hunain cyn dechrau’r cwrs. Gellir prynu’r esgidiau hyn gan unrhyw fanwerthwr.

Gofynion mynediad

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

19 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

TPACC2F01
L2

Cymhwyster

City & Guilds Foundation in Construction and Building Services Engineering (Leve

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

DB2,
Campws Canol y Ddinas,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE