Mae’r cwrs hwn ar gyfer dysgwyr sydd wedi teilsio waliau a lloriau, ac yn wybodus ynghylch hyn, sydd nawr eisiau rhoi canolbwynt i’w sgiliau ac ennill cymhwyster. Bydd y cymhwyster yn helpu’r dysgwyr i ddeall beth sy’n ddisgwyliedig yn y diwydiant o ran eu gwybodaeth a’u sgiliau ymarferol, wrth gyflawni gweithgarwch teilsio waliau a lloriau.
Bydd y dysgwr yn sefyll arholiadau theori ac ymarferol, ar sail gwaith adeiladu yn gyffredinol, a theilsio waliau a lloriau yn benodol. Bydd y dysgwr hefyd yn gwella ei sgiliau Mathemateg a Saesneg, a brofir drwy arholiadau theori a thasgau ymarferol.
Cwblhau cwrs Sylfaen lefel 2 yn llwyddiannus, presenoldeb o 90% o leiaf, geirda boddhaol ac ymddygiad ar y cwrs. NEU Dylai fod gan y dysgwr/dysgwyr wybodaeth am adeiladwaith a theilsio waliau a lloriau. Dylai fod gan y dysgwr lefel dda o sgiliau mathemateg a saesneg, penderfynir ar hyn gyda chyfweliad boddhaol gyda thiwtor y cwrs.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.