Ail-achrediad Uwch-dechnegydd Paneli
Mae'r llwybr Paentio wedi'i dargedu tuag at dechnegwyr y mae eu swyddi yn cynnwys atgyweirio cerbydau sydd, yn nodweddiadol, wedi bod mewn damwain neu ddigwyddiadau cyffelyb. Dylai technegwyr fod yn gweithio yn y sector atgyweirio damweiniau'r diwydiant a meddu ar o leiaf tair blynedd o brofiad i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â'r sgiliau, y wybodaeth a'r technegau sydd eu hangen i atgyweirio a newid cydrannau corff, gan gynnwys dychwelyd aliniad cerbydau i fanyleb y gwneuthurwr a chywiro namau yng nghragen y corff.
Cysylltwch â thiwtor y cwrs, os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach - 02920 406505.
Beth fyddwch yn ei astudio?
RHAID i lefelau ymgeiswyr feddu ar Dystysgrif Weldio gyfredol ar gyfer AOM – 009 (BS1140 a BS4872).
Modiwlau Asesiad Llawn:
- Aliniad Panel Cosmetig
MET - Cymhleth- Difrod i'r Panel (Cywiriad)
- Panel/Adran wedi'i Weldio MAG/MIG Presyddu/Rhwymo/Rhybedu
- Cywiro Cam-aliniad Cragen Corff (Gosod, Mesur, Addasu)
- Panel Cosmetig Alwminiwm
- Atgyweirio Llanwydd Oer
- Modiwlau Ailasesu:
- MET - AOM 006 Cymhleth
- Panel/Adran wedi'i Weldio MAG/MIG Presyddu/Rhwymo/Rhybedu AOM 030
Pwyntiau pwysig
- Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr dan 18 oed
- Mae cymorth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymrwymedig i gynhwysedd ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cyfle cyfartal ac i drin pawb yn deg a chyda pharch
- Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw
- Mae'r holl gyrsiau'n gywir ar adeg eu lanlwytho neu eu hargraffu
- Ni allwn redeg cyrsiau heb nifer digonol o fyfyrwyr
- Sylwer: os dewiswch dri neu fwy o ddewisiadau cwrs, yna fe allech chi gael eich cyfeirio at apwyntiad gyrfaoedd yn gyntaf. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch neu TGAU.
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Cwrs: £650.00
Gofynion mynediad
Mae hwn yn ail-achrediad i fyfyrwyr sydd wedi cyflawni'r Cymhwyster Panel Uwch llawn yn flaenorol.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Rhan Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Cyfleusterau
Mwy
Rwy'n gwybod o astudio yn y Coleg a rhoi'r sgiliau rwyf wedi'u dysgu ar waith yn fy swydd, fy mod i'n gwella bob dydd. Rwyf hyd yn oed yn mynd i gystadlu yng nghystadleuaeth paentio cyrff cerbydau modur World Skills.
Angen gwybod
Cefnogaeth Dysgu