Argraffu 3D ar gyfer Busnesau Bach

L3 Lefel 3
Rhan Amser
5 Tachwedd 2024 — 25 Ionawr 2025
Campws Canol y Ddinas
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at fusnesau bach ac ymarferwyr creadigol sy’n awyddus i gael blas ar argraffu 3D a’r offer meddalwedd sydd eu hangen i greu model printiedig, gan roi mantais gystadleuol i fusnesau yn y farchnad.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cwrs yn mynd i'r afael ag ystod o bynciau, gan gynnwys:

  • Gorffennol, Presennol a Dyfodol Argraffu 3D
  • Manteision a Chyfyngiadau Argraffu 3D 
  • Dulliau a Thechnegau CAD/CAM 2D a 3D 
  • Deunyddiau a Thechnegau Argraffu 3D
  • Technegau CAD gan ddefnyddio Google Sketchup

Byddwch yn dogfennu eich gwaith ar gyfer pob sesiwn o fewn portffolio digidol
Mae gan yr adran greadigol weithdai a chyfleuster cyfrifiadurol 3D/Celf helaeth a chyfleusterau cyfrifiadurol yn cynnwys cyfrifiaduron Mac ac Argraffwyr 3D Makerbot.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cwrs: £45.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Gofynion mynediad

Nid yw'n ofynnol i ymgeiswyr feddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol i gofrestru ar y cwrs hwn.

Cyfleusterau

Mae gan yr adran greadigol weithdai a chyfleuster cyfrifiadurol 3D/Celf helaeth a chyfleusterau cyfrifiadurol yn cynnwys cyfrifiaduron Mac ac Argraffwyr 3D Makerbot.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

5 Tachwedd 2024

Dyddiad gorffen

25 Ionawr 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

2.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CDCC3P11
L3

Cymhwyster

CQ53CY024 3D Printing for Small Businesses

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas
Campws Canol y Ddinas

45a Stryd Masnach,
Caerdydd 
CF10 5DT