Mae'r cwrs yn datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o'r berthynas rhwng cymdeithas a chelf; termau hanes celf, cysyniadau a phroblemau; dylanwad ffactorau diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol yn ogystal â datblygiadau mewn deunyddiau, technegau a phrosesau celf a phensaernïaeth dros amser.
Dadansoddiad gweledol
Mae'r gallu i ddadansoddi nodweddion ffurfiol unrhyw waith celf a phensaernïaeth o fantais allweddol i unrhyw unigolyn mewn byd sydd wedi ei ddominyddu gan ddelweddau a negeseuon gweledol. Bydd myfyrwyr yn datblygu llythrennedd gweledol ar draws peintio, cerflunio a phensaernïaeth o fewn y traddodiad Ewropeaidd o gelf, o Roeg Glasurol (500 BCE) i'r presennol.
Themâu
Bwriedir i themâu fod yn archwiliadau eang o'r datblygiadau mewn celf a'r cysylltiadau rhwng mudiadau a chyfnodau ar draws amser a lle. Bydd myfyrwyr yn archwilio artistiaid a gweithiau o'r cyfnod cyn 1850 ac ar ei ôl, y ddau o fewn traddodiad Ewropeaidd a thu hwnt iddo. Bydd myfyrwyr yn astudio gwaith ar draws o leiaf tri math o gelf: 2D, 3D a phensaernïaeth
Cyfnodau
Bwriad astudio Cyfnod yw rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ymchwilio ac archwilio'r mudiadau allweddol, y cysyniadau, yr artistiaid, y penseiri, y ffactorau cyd-destunol a datblygiadau perthynol celf a phensaernïaeth mewn lle/oedd penodol ac ar draws amser clir, diffiniedig yn fanwl.
3 awr yr wythnos o ddarpariaeth, unwaith yr wythnos.
2 arholiad a asesir yn allanol:
Papur 1:
Dadansoddi gweledol a themâu 50% o'r cymhwyster
Papur 2:
Cyfnodau 50% o'r cymhwyster
Ffi Arholiad : £90.00
Ffi Cwrs: £583.00
Ffi Cofrestru rhan amser: £35.00
Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Astudio Hanes Celf, neu bwnc dyniaethau arall, ymhellach mewn addysg uwch.
Mae holl elfennau'r cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau i fyfyrwyr ar gyfer addysg uwch a thu hwnt; mae budd rhyngddisgyblaethol hanes celf yn allweddol i hyn, fel y mae gofyn i'r holl fyfyrwyr ddysgu sut i ddadansoddi, ymchwilio ac i ffurfio dadl resymegol wedi'i chadarnhau ar ffurf ysgrifenedig.