Technoleg Ddigidol - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
4 Medi 2024 — 7 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r rhaglen Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu A2 yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru.  Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r fanyleb hon yn annog ymgeiswyr i fod yn ddefnyddwyr TGCh deallus, yn datblygu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth TGCh. Mae TGCh A2 yn dilyn ymlaen o UG ac yn cynnwys y ddau fodiwl canlynol:

Modiwl 3: Defnydd ac effaith TGCh

Dyma’r elfen theori a bydd y pynciau a astudir yn cynnwys:

  • Rhwydweithiau Cyfrifiadurol
  • Theori cronfeydd data
  • Effaith TGCh
  • Systemau Rheoli Gwybodaeth (MIS)
  • Rhyngweithio Cyfrifiadurol Dynol

Dylai ymgeiswyr hefyd ystyried caledwedd a meddalwedd cyfoes eraill.

Modiwl 4: Cronfeydd Data Perthynol

Mae'r uned hon yn gofyn i ymgeiswyr gynhyrchu prosiect cronfa ddata berthynol. Nid oes raid i'r prosiect cronfa ddata fod yn seiliedig ar gyd-destun masnachol gwirioneddol, ond dylid annog ymgeiswyr i ddatblygu system realistig.

Wrth gwblhau'r uned hon, dylai ymgeiswyr allu:

  • Darganfod sut y gellid defnyddio cronfa ddata strwythuredig mewn sefydliad
  • Deall mathau a fformatau data
  • Darganfod sut mae data yn cael ei gipio a’i baratoi i'w ddefnyddio mewn cronfa ddata berthynol
  • Deall dulliau dilysu i leihau gwallau
  • Dysgu a gweithredu egwyddorion normaleiddio data parthed dylunio cronfa ddata berthynol
  • Dylunio, gweithredu a phrofi cronfa ddata berthynol i fanyleb
  • Cynhyrchu dogfennaeth defnyddiwr
  • Datblygu arfer da yn eu defnydd o TGCh
  • Gallu gwerthuso eu dyluniad

Mae yna un arholiad sy'n 2.25 awr ym Mehefin, yn ogystal ag un darn o waith sy'n cael ei asesu'n fewnol a’i gymedroli'n allanol.

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Addysgu ac Asesu

  • Un arholiad a gwaith cwrs

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Medi 2024

Dyddiad gorffen

7 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F08
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Lefel 3 mewn TGCh

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Roedd athrawon Coleg Caerdydd a’r Fro a’r cyfleusterau bob amser ar gael i mi a oedd o gymorth mawr yn ystod tymor yr arholiadau, ac fe helpodd fi i ennill y graddau yma.”

Omar Sufer
Astudio cyrsiau Safon Uwch mewn Cyfrifiadureg, TGCH a Mathemateg

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Cyfrifiadureg
  • Seiberddiogelwch
  • Economeg
  • TGCh
  • Mathemateg
  • Ffiseg

Angen gwybod

Rhaglen Ysgolheigion

Enillwch y sgiliau a’r cymorth i lwyddo yn y prifysgolion gorau.

Cefnogaeth Dysgu

Mae ein timau cefnogi ymroddedig yn cynnig cefnogaeth gydag anghenion dysgu ychwanegol, cyllid myfyrwyr a mwy.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE