Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn Plismona (Troseddeg, Cymdeithaseg, y Gyfraith a Phlismona)
Ynghylch y cwrs hwn
Bydd y diploma Mynediad i Addysg Uwch llawn amser hwn, a ddilysir gan Agored Cymru, yn paratoi dysgwyr ar gyfer gradd mewn Plismona Proffesiynol a chyrsiau eraill sy’n gysylltiedig ag Addysg Uwch. Cyflwynir y cwrs ar gampws Canol y Ddinas a bydd cynnwys pynciau ym meysydd Plismona, Troseddeg, Seicoleg a’r Gyfraith.
Mae’r cwrs wedi’i anelu at ddysgwyr aeddfed sydd ag uchelgais i fynd i’r sectorau gwasanaethau cyhoeddus a chymdeithasol. Mae’n un o’r ychydig iawn o gyrsiau yn y DU sy’n cynnig dilyniant uniongyrchol i radd mewn Plismona a gall gynnig dilyniant i gyrsiau tebyg eraill.
Beth fyddwch chi’n ei astudio
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno ar y cyd â gweithwyr proffesiynol profiadol yr heddlu i sicrhau bod dysgwyr yn cael ystod eang o brofiadau. Bydd dysgwyr yn astudio ystod gynhwysfawr o bynciau ym meysydd:
- Plismona
- Troseddeg
- Seicoleg
- Y Gyfraith
Yn ogystal, bydd dysgwyr yn datblygu eu sgiliau academaidd i’w paratoi ar gyfer astudio ar lefel prifysgol:
- Ymddygiad Proffesiynol
- Mathemateg
- Sgiliau Astudio
- Cyfathrebu ysgrifenedig a llafar
Mae’r asesiad ar gyfer y cwrs hwn yn gyfuniad o waith cwrs, aseiniadau, arholiadau a Thraethawd Estynedig. Mae'r unedau lefel tri mewn Plismona, Troseddeg, Seicoleg, Y Gyfraith a'r Traethawd Estynedig yn cael eu graddio fel Llwyddiant, Teilyngdod a Rhagoriaeth ar gyfer yr elfennau sgil.
I gyflawni’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch, rhaid i fyfyrwyr ennill y 60 credyd y maent wedi cofrestru ar eu cyfer; mae 45 credyd wedi’u graddio ar lefel 3 gyda’r gweddill yn gredydau heb eu graddio ar lefel tri neu lefel dau.
Bydd gan ddysgwyr ddefnydd o gyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf ar ein Campws Canol y Ddinas yn ogystal â chyfleusterau addysgu heddlu arbenigol ym Mhrifysgol De Cymru (ar adegau penodol yn ystod y cwrs).
Ffi'r cwrs fesul blwyddyn
Ffi Gofrestru yn Daladwy wrth Gofrestru : £0.00
Gofynion mynediad
TGAU Saesneg a/ Mathemateg gradd C.
Efallai y byddwn yn ystyried opsiynau amgen sy’n arddangos hyfedredd lefel 2 mewn llythrennedd, 19+ oed gyda thystiolaeth o brofiad bywyd.
Pwyntiau pwysig
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Amser o'r dydd
Llawn Amser
Cod y cwrs
Cymhwyster
Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach
Ar ôl cwblhau’r cwrs mae cyfleoedd dilyniant yn cynnwys symud ymlaen i Radd Plismona Proffesiynol neu gyrsiau cysylltiedig eraill ar lefel Addysg Uwch.