Mynediad i Astudio Pellach

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 27 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynglŷn â'r cwrs

Mae ein llwybr Sylfaen Oedolion Lefel 2 yn ceisio dysgu cymwysterau i fyfyrwyr a fydd yn gwella eu cyfleoedd am swydd neu'n eu paratoi ar gyfer astudio ar Lefel 3. Mae'r rhaglen yma ar gyfer myfyrwyr aeddfed sydd â phrofiad o fywyd (o leiaf 2 blynedd allan o addysg lawn amser) a rhai cymwysterau blaenorol, a all fod ar raddau isel neu wedi'u sefyll amser maith yn ôl!  

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae’r cwrs Sylfaen Oedolion yn gwrs blwyddyn dwys sy’n adeiladu ar y sgiliau presennol. Byddwch yn astudio Gwyddoniaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, Mathemateg, Saesneg, TG a Sgiliau Astudio fel rhan o Ddiploma Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach Agored a byddwch hefyd yn cael cyfle i sefyll Saesneg a Mathemateg TGAU. Cynhelir tiwtorialau wythnosol i archwilio llwybrau datblygu ac i’ch cefnogi chi drwy eich astudiaethau.

Gofynion mynediad

Lefel 1 Llythrennedd a Rhifedd yn cael eu hasesu yn ystod y cyfweliad (cyfwerth â gradd D neu uwch TGAU). Mae angen i ddysgwyr fod wedi gadael addysg lawn amser ers dwy flynedd cyn astudio’r Cwrs hwn.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiad parhaus gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth ac arholiadau.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

Cod y cwrs

Cymhwyster

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

Fe gefais i fy addysgu gartref o flwyddyn 7 ymlaen ac, o ganlyniad, 'chefais i ddim cymwysterau o gwbl. Roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi gael rhywbeth i gael swydd. Roedd fy nhiwtoriaid i i gyd yn gefnogol iawn ond rhaid i chi weld hyn drosoch chi eich hun, felly fe fyddwn i'n dweud wrthych chi am ddod draw i weld beth all y coleg yma ei wneud i chi.

Kulsum Salamut
Wedi astudio Sylfaen Oedolion

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn mae llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i’n cyrsiau Mynediad sy’n rhoi cyfle i chi wneud cais ar gyfer y brifysgol. Mae myfyrwyr eraill yn gwneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Lefel 3 a gynigir yn y coleg, yn ogystal â dilyn amrywiaeth o swyddi gyda’u sgiliau newydd.