Saesneg Sylfaenol i Oedolion

EL2 Lefel Mynediad 2
Rhan Amser
2 Medi 2024 — 22 Tachwedd 2024
Neuadd Llanrhymni
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer oedolion sy'n dysgu.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Nod y cwrs yw datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ymgymryd â chyrsiau eraill, sicrhau gwaith a datblygu eich gyrfa. Byddwch yn gwella eich sgiliau cyfathrebu, yn gwella eich hyder a’ch cymhelliant.

Fel rhan o'r cwrs hwn, byddwch yn gwella eich sgiliau siarad a gwrando, darllen ac ysgrifennu. Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â gramadeg, atalnodi a sillafu. Byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu llythyrau ffurfiol, erthyglau a thaflenni. 

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £10.00

Dulliau addysgu ac asesu

Caiff y cymhwyster ei asesu drwy asesiad dan reolaeth. Bydd dysgwyr yn cwblhau hyn wrth fynychu’r coleg, dan amodau a oruchwylir.

Saesneg Sylfaenol i Oedolion

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

22 Tachwedd 2024

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Neuadd Llanrhymni
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

ABEHWCP101
EL2

Cymhwyster

CAVC Certificate

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Bwriad cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw cefnogi dysgwyr wrth iddynt geisio gwella eu sgiliau rhifedd, llythrennedd, digidol a chyflogadwyedd.

Dylai cyflawni’r cymwysterau hyn wella hyder a chymhelliant dysgwyr, a bydd y sgiliau maent yn eu hennill yn werthfawr wrth ddysgu, gweithio a bywyd cyffredinol yn y dyfodol.

Lleoliadau

Neuadd Llanrhymni
Neuadd Llanrhymni

Ball Rd, 
Llanrumney, 
Caerdydd, 
CF3 4JJ