Llenyddiaeth Saesneg - A2

L3 Lefel 3
Llawn Amser
3 Medi 2024 — 7 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynglŷn â'r cwrs

Mae’r rhaglen Llenyddiaeth Saesneg A2 yn gwrs astudio am un flwyddyn a dylid ei dilyn ar y cyd â dau neu dri phwnc arall a Bagloriaeth Cymru. Wedi ei leoli yn ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, efallai y bydd dysgwyr yn gallu cymryd y cymhwyster hwn fel myfyriwr rhan-amser.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Mae Llenyddiaeth Saesneg A2 yn dilyn ymlaen o UG ac yn cynnwys y tri modwl canlynol:

Uned 3 – Barddoniaeth cyn 1900 a barddoniaeth dibaratoad - 20% o’r cymhwyster

Y testun barddoniaeth cyn 1900 a astudir ar gyfer y cwrs yw John Donne Selected Poems. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i edrych ar gerddi neu ddarnau mewn modd personol a dengar nad yw wedi ei osod ar gyfer astudiaeth yn flaenorol yn rhan o'r cwrs. Bydd arholiad ysgrifenedig o 2 awr.

Uned 4 – Shakespeare – 20% o'r cymhwyster

Y testun penodedig ar gyfer yr uned hon yw King Lear gan Shakespeare. Bydd myfyrwyr yn ateb un cwestiwn seiliedig ar ddarn a ddyfynnir o’r ddrama ac yn ateb un cwestiwn o ddewis o ddau ar yr un testun. Bydd arholiad ysgrifenedig o 2 awr.

Uned 5 – Astudio Rhyddiaith - 20% o’r cymhwyster

Asesiad nad yw’n arholiad: Aseiniad 2500-3500 gair

Rhoddir pwyslais yn yr uned gwaith cwrs yma ar ddarllen ac ymchwil annibynnol. Dylai myfyrwyr gyflwyno aseiniad 2500-3500 gair yn seiliedig ar ddarllen dau destun o ryddiaith gan wahanol awduron, un wedi ei gyhoeddi cyn 2000 a’r llall wedi ei gyhoeddi wedi 2000. Mae testunau posibl yn cynnwys: Atonement gan Ian McEwan a Wuthering Heights gan Emily Bronte.

Gofynion mynediad

Cwblhau rhaglen AS yn llwyddiannus gan gynnwys presenoldeb boddhaol ac argymhelliad gan diwtor.

Addysgu ac Asesu

  • Dau arholiad ysgrifenedig a gwaith cwrs

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Medi 2024

Dyddiad gorffen

7 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

4.5 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

A2CC3F04
L3

Cymhwyster

CBAC TAG Uwch Lefel 3 mewn Llenyddiaeth Saesneg

Mwy

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ddweud?

“Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn lle anhygoel i astudio Safon Uwch – yr athrawon, y gefnogaeth, y cyfleusterau a’r profiad cymdeithasol, maent oll wedi bod mor dda – rwyf yn hynod falch o fod wedi ennill fy ngraddau A yn fy arholiadau UG. Mae’r cymorth parthed gwneud cais ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer prifysgol yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddatblygu wedi’r coleg.

Kuba Lewandowski
Myfyriwr Safon Uwch

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

500

Llwybrau dilyniant gwych i’r brifysgol! Gyda channoedd o fyfyrwyr yn ennill lle i astudio yng Nghaergrawnt/Rhydychen, prifysgolion grwˆp Russell a phrifysgolion blaenllaw eraill. Yn wir, eleni llwyddodd dros 500 o fyfyrwyr i gael eu lle dewis cadarn neu yswiriant trwy UCAS, gyda bron 100 ohonynt yn brifysgolion Grwˆ p Russell!

Ar ôl cwblhau’r rhaglen Lefel A, mae mwyafrif ein myfyrwyr yn symud ymlaen i brifysgolion ledled y wlad a thu hwnt. Yn seiliedig ar y cwrs hwn, mae llawer o opsiynau ond isod mae rhai enghreifftiau o raglenni gradd y gallech fynd ymlaen i’w hastudio yn y brifysgol:

  • Ysgrifennu Creadigol
  • Iaith Saesneg
  • Llenyddiaeth Saesneg
  • Hanes
  • Llywodraeth a Gwleidyddiaeth
  • Ieithoedd
  • Seicoleg

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE