Mae cymhwyster CIM Lefel 3 yn eich darparu â'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i gamu i'r diwydiant marchnata a gallu gweithio'n broffesiynol mewn swydd gefnogol o fewn y gweithle. Bydd 2 weithdy ychwanegol ynghlwm â'r dosbarth 5.30-8.30pm ar ddydd Mawrth.
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys dau fodiwl, ac mae angen i chi basio'r ddau i ennill y cymhwyster llawn. Mae'r modiwlau yn ymdrin ag:
Yna mae'n rhaid i chi ddod yn Aelod Astudio CIM, ac mae'r gost flynyddol o oddeutu £65 angen ei dalu'n uniongyrchol i CIM.
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Cwrs: £110.00
4 TGAU Gradd A* - C yn cynnwys Saesneg Iaith.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.