Cyn-Mynediad i Nyrsio, Gwaith Cymdeithasol, ac Addysg Gynradd

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r cwrs Cyn-Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi'i ddylunio i roi'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i fynd ymlaen i'r Cwrs Mynediad i Nyrsio.  Byddwch yn cael cyfle a chefnogaeth i sefyll TGAU Mathemateg a Saesneg, ac yn astudio uned Gofal o gwrs Lefel 2.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Bydd y cwrs yn cael ei astudio un diwrnod yr wythnos am 32 wythnos. Mae wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y Maes Gofal ac yn awyddus i gael gyrfa mewn Nyrsio/Bydwreigiaeth, Gwaith Cymdeithasol neu Addysg Gynradd yn y dyfodol.

Rhoddwn ystyriaeth unigol a gofalus i bob cais. Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol i ymuno â’r cwrs hwn, ond rydym yn chwilio am unigolion sydd wedi bod allan o addysg ffurfiol am gyfnod ac sydd â sgiliau llythrennedd a rhifedd priodol sy’n dangos eich bod yn barod ar gyfer y cwrs hwn (byddwn yn eich helpu i brofi hyn yn y cyfweliad).

Rydym hefyd yn disgwyl gweld sgiliau rhyngbersonol da, ymrwymiad i'r maes astudiaeth a brwdfrydedd a dealltwriaeth o'ch llwybr gyrfa dewisol.

Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer y rheiny sydd eisoes mewn cyflogaeth, ond ystyrir y rheiny sydd yn dymuno cael gwaith yn y maes.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £100.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Cwrs: £75.00

Gofynion mynediad

Rhoddwn ystyriaeth unigol a gofalus i bob cais. Nid oes angen unrhyw gymhwyster ffurfiol arnoch i ymuno â'r cwrs hwn, ond bydd yn rhaid i chi arddangos sgiliau priodol mewn llythrennedd a rhifedd, a fydd yn cael eu hasesu mewn cyfweliad. Yn dilyn canlyniadau eich asesiad efallai y bydd angen i chi gwblhau cwrs gloywi/uwchsgilio mewn llythrennedd, rhifedd neu'r ddau. Os felly, bydd angen darparu tystiolaeth o gwblhad cyn cofrestru ar y cwrs. Rhaid i ddysgwyr fod wedi gadael addysg llawn amser ers 3 blynedd cyn astudio’r Cwrs hwn. DS: Gofynnir i ddarpar ddysgwyr sydd â’r Saesneg fel ail iaith feddu ar Gymhwyster ESOL Lefel 1.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

Roedd y cyrsiau'n berffaith ar gyfer mynd i'r brifysgol; dosbarthiadau bach, cefnogaeth wirioneddol wych ac amgylchedd gwych i allu dysgu ynddo.

Ceri-Ann Jones-Mathias
Cyn-fyfyriwr Mynediad i Wyddorau Iechyd

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Cyflogaeth neu astudiaeth bellach.

Lleoliadau

Campws Dwyrain Caerdydd
Campws Dwyrain Caerdydd

Heol Trowbridge, 
Caerdydd, 
CF3 1QL

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ