Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth

L3 Lefel 3
Rhan Amser
9 Medi 2025 — 15 Mehefin 2027
Campws Dwyrain Caerdydd
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae ein cwrs Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth yn berffaith i’r rheiny sy’n awyddus i ddilyn gyrfa mewn nyrsio. Lluniwyd y rhaglen i drosglwyddo’r sgiliau a’r wybodaeth y mae dysgwyr eu hangen i fynd ymlaen at addysg uwch, gan astudio’n rhan amser dros ddwy flynedd. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ennill cymhwyster Diploma Mynediad at Addysg Uwch. Mae hwn yn gymhwyster sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol, ac yn cael ei dderbyn ar gyfer mynediad i gyrsiau Addysg Uwch.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r cwrs hwn yn mynd i’r afael â Bioleg Ddynol, Astudiaethau Gofal a Gwyddorau Bywyd fel y prif bynciau. Bydd hefyd yn ofynnol i chi ddilyn pynciau craidd mewn Rhifedd, Cyfathrebu a Sgiliau Astudio. Cynhelir tiwtorialau wythnosol i gynorthwyo myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau.

Nodwch fod cymwysterau ychwanegol yn ofynnol ar gyfer rhai llwybrau gradd (e.e. TGAU Mathemateg/Saesneg Gradd B), ynghyd â chymhwyster Diploma Mynediad i AU. Sicrhewch eich bod yn cofrestru ar gyfer y ddarpariaeth briodol yn seiliedig ar y llwybr gadael a gynlluniwyd gennych - gellir trafod hyn yn ystod eich cyfweliad os dymunwch.

Os nad oes gennych eisoes y cymwysterau TGAU a bod angen y rhain ar gyfer y cwrs prifysgol o’ch dewis, efallai y byddwch yn dymuno ystyried ein cwrs gofal Cyn-mynediad.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £160.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £45.00

Ffi Cwrs: £325.00

Gofynion mynediad

Mae TGAU Saesneg Iaith A* - C yn orfodol a rhaid darparu tystiolaeth cyn cofrestru. Canlyniad cyfweliad ac asesiad llwyddiannus - Lefel 1 mewn Mathemateg a Lefel 2 mewn Saesneg. Mae angen i ddysgwyr fod y tu allan i Addysg Ôl-orfodol am 3 blynedd cyn astudio. DS: Yn ystod y broses ymgeisio, gofynnir i ddarpar ddysgwyr y mae eu Saesneg yn ail iaith iddynt ddangos Sgôr IELTS o 6 yn gyffredinol (System Profi Iaith Saesneg Ryngwladol) mewn Saesneg llafar ac ysgrifenedig.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

9 Medi 2025

Dyddiad gorffen

15 Mehefin 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Dwyrain Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

ACEH3P01
L3

Cymhwyster

Access to Nursing & Midwifery

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Yn dilyn cwblhau’r cwrs, bydd modd i ddysgwyr fynd ymlaen i gyrsiau gradd Addysg Uwch mewn Nyrsio, Bydwreigiaeth ac amrywiaeth o gyrsiau astudio Gofal. 

Angen gwybod

Pam CAVC?

Un o'r colegau mwyaf yn y wlad gyda mwy na 30,000 o bobl yn dysgu gyda ni bob blwyddyn.

Cyfleoedd

Mae CAVC yn cynnig llawer o gyfleoedd y tu hwnt i'ch astudiaethau gan gynnwys rhaglen gyfoethogi wych a chyfleoedd chwaraeon.

Camau nesaf

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw cyrsiau yn eich maes o ddiddordeb.

Nosweithiau agored

Ymwelwch â ni yn un o'n safleoedd, cewch sgwrs gyda'n tiwtoriaid ynglŷn â'r cwrs sy'n mynd â'ch bryd a gweld ein cyfleusterau arbennig trwy eich llygaid eich hunan.

Gwneud cais ar-lein

Mae'n hawdd gwneud cais i Goleg Caerdydd a'r Fro a gallwch wneud popeth ar-lein.

Lleoliadau

Campws Dwyrain Caerdydd
Campws Dwyrain Caerdydd

Heol Trowbridge, 
Caerdydd, 
CF3 1QL