Chwaraeon CAVC – Academïau a Chwaraeon Elît

Cydbwyso eich chwaraeon dewisol wrth ddysgu.

Amdanom ni

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) yn goleg blaenllaw ar gyfer chwaraeon. Ochr yn ochr ag ennill addysg o safon uchel, pa gwrs bynnag a ddewiswch, gallwch gael budd o amgylchedd ysbrydoledig i ddatblygu oddi mewn iddo, a mwynhau’r chwaraeon a ddewisir gennych.
Fel yn o’r colegau mwyaf yn y DU, cynigiwn amrywiaeth aruthrol o gyrsiau, ac rydym yn ymroi i sicrhau mai eich addysg chi yw’r brif flaenoriaeth. Rydym hefyd yn o ddifrif am chwaraeon, ac yn buddsoddi yn y cyfleusterau, yr hyfforddiant, y cysylltiadau a’r cymorth cynhwysfawr gorau i’ch helpu chi i gyflawni eich nod ym myd chwaraeon.
Pa gyrsiau bynnag a ddewiswch, bo’r rheiny’n Lefelau A neu’n rhaglen alwedigaethol, rydym yn gweithio gyda chi i sicrhau bod gofynion o ran hyfforddiant a chystadlu yn cyd-fynd â’ch dysgu. Felly, p’un a ydych yn ymuno ag un o’n hacademïau, neu’n parhau i ddilyn trywydd eich nod unigol chi o ran chwaraeon, gallwch gyflawni eich potensial ar y cae, ac oddi arno.  

Ein Hacademïau

Chwaraeon elitaidd

Yn eich cefnogi chi i gyflawni eich potensial. Yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, rydym yn o ddifrif am chwaraeon.

Rydym yn buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon o’r safon orau i’n myfyrwyr a’r gymuned.

Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (CISC)

  • Meysydd chwarae glaswellt, 3G a ‘desso’ gydag eisteddleoedd i wylwyr
  • Cromen aer o’r radd flaenaf
  • Trac a stadiwm athletau o faint llawn
  • Campfa fawr
  • Ystafelloedd dadansoddi

Campws Canol y Ddinas

  • Cromen aer o’r radd flaenaf gyda Mannau Chwarae Amlddefnydd
  • Maes chwarae 3G gydag eisteddle i wylwyr
  • Campfa cryfder a chyflyru i hybu perfformiad

Pam ni?

Y cydbwysedd iawn
Rydym yn gweithio gyda chi, eich athrawon a’ch hyfforddwyr i sicrhau nad yw eich astudiaethau a’ch ymrwymiadau o ran chwaraeon yn gwrthdaro.

Hanes o lwyddiant 

Mae llwyddiant ein myfyrwyr yn dweud y cyfan, gyda’n myfyrwyr yn ennill cytundebau proffesiynol a lled-broffesiynol, ac yn mynd ymlaen i gynrychioli eu gwlad fel athletwyr, yn mynd i brifysgolion ac i mewn i yrfaoedd, ochr yn ochr â’u gweithgaredd chwaraeon.

Cyfleusterau rhagorol
Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (CISC) yw ein cartref dynodedig ar gyfer ChwaraeonCAVC. Mae’r cyfleuster mawr hwn yn cynnwys maes chwarae glaswellt, meysydd chwarae 3G a ‘desso’, cromen aer o’r radd flaenaf, trac athletau o faint llawn, ynghyd â stadiwm, campfa fawr ac ystafelloedd dadansoddi. 
Hefyd, yn ein Campws yng Nghanol y Ddinas, fe geir cyfleusterau o’r safon uchaf, gan gynnwys cromen chwaraeon o’r radd flaenaf unwaith eto, gyda Mannau Chwarae Amlddefnydd, maes chwarae 3G, ynghyd â champfa cryfder a chyflyru i hybu perfformiad, sy’n cael ei hadnabod fel un o’r gorau o’i math.
Mae ein hacademïau’n gweithio mewn partneriaeth â’r prif glybiau proffesiynol yn y rhanbarth, felly caiff dysgwyr ddefnyddio eu cyfleusterau i hyfforddi neu chwarae yn ystod y tymor ym Mharc yr Arfau, Gerddi Sophia a Cardiff City House of Sport, ymhlith eraill.
Mae llety ar gael i fyfyrwyr o bell sy’n dymuno ymuno â CAVC ac un o’n hacademïau.    

Academïau arbenigol
Cynigiwn academïau arbenigol mewn chwaraeon, gan gynnwys Rygbi, Pêl-droed, Pêl-rwyd, Criced a Phêl-fasged. Arweinir bob academi gan arbenigwyr, ac maent yn gweithio mewn partneriaeth â thimau proffesiynol a lled-broffesiynol blaenllaw y rhanbarth.

Hyfforddiant arbenigol proffesiynol
Arweinir pob un o academïau chwaraeon CAVC gan staff hyfforddi proffesiynol, a chanddynt rwydwaith o gysylltiadau a phrofiad sylweddol mewn cystadlu, hyfforddi, datblygu a hybu talent at y dyfodol o fewn y meysydd chwaraeon dan sylw.

Cryfder a chyflyru proffesiynol a chymorth cynhwysfawr
Mae gennym dîm ymroddedig sy’n rhoi mynediad i chi i gymorth personol arbenigol, pa faes bynnag yw eich maes chwaraeon chi, gan gynnwys hyfforddwyr Cryfder a Chyflyru proffesiynol, Dadansoddi Perfformiad, Maetheg, Ffisiotherapi a mwy. 

Gornestau cystadleuol
Mae pob un o’n hacademïau’n chwarae mewn cynghreiriau rhanbarthol a Chynghreiriau Colegau Cymru, ac yn cystadlu yn erbyn rhai o’r cystadleuwyr gorau yn y wlad a thu hwnt. Mae pob academi hefyd yn cystadlu mewn cystadlaethau ag iddynt broffil uchel yng Nghymru a’r DU, ynghyd â theithiau yn y DU a thramor.

Partneriaethau proffesiynol
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â’r prif dimau chwaraeon yn ein rhanbarth, gan gynnwys Rygbi Caerdydd, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Chriced Morgannwg. Mae gennym rwydwaith helaeth o gysylltiadau â chyrff llywodraethu chwaraeon, prifysgolion ac eraill, i gael mynediad i arbenigedd a chefnogi eich datblygiad a’ch cynnydd.

Un#TîmCAVC
Yn CAVC, rydym yn falch o’n talent ym maes chwaraeon. Mewn partneriaeth â Macron, darparwn gyfle i gael y pecynnau cit adnabyddus, er mwyn i chi gael eich adnabod fel aelod o ChwaraeonCAVC. Hefyd, mae gennych staff a myfyrwyr y coleg mwyaf yng Nghymru yn union y tu ôl i chi, yn eich cefnogi fel aelod o #TîmCAVC.