Mae ein cyrsiau poblogaidd Mynediad Galwedigaethol yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau, eich cymwysterau a darganfod beth rydych yn ei fwynhau. Bwriad hyn yw y gallwch symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y coleg neu i gyflogaeth.
Byddwch yn dewis dau opsiwn sy’n canolbwyntio ar yrfa i’w dysgu yn ystod eich cwrs. Gallwch ddewis o blith Arlwyo, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus, Cyfryngau, Celf, TG, Crefftau Adeiladu, Gwallt a Gwaith Barbwr, Harddwch, Gwasanaeth Cwsmer, Busnes, Plymwaith a Gwaith Trydanol, Celfyddydau Perfformio, Mecaneg a Cherddoriaeth. Rydym yn argymell eich bod yn dewis dau opsiwn yr ydych yn eu mwynhau ac yr hoffech symud ymlaen i astudio neu weithio ynddynt. Ar y cwrs byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau grŵp a briffiau byw gyda chyflogwyr, teithiau, ymweliadau neu leoliadau gwaith.
Rydych hefyd yn parhau i ddatblygu eich sgiliau Saesneg a Mathemateg. Bydd rhai myfyrwyr yn dewis ail-sefyll eu harholiadau TGAU yn y pynciau hyn ar yr un pryd.
Enw’r cwrs |
Lefel
|
Dyddiadau dechrau ar gael
|
Lleoliadau ar gael
|
---|---|---|---|
Mynediad galwedigaethol | L1 Llawn Amser | 3 Medi 2024 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd Campws Dwyrain Caerdydd Campws y Barri |
Sgiliau Gwaith Mynediad Galwedigaethol | L1 Llawn Amser | 3 Medi 2024 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd Campws Dwyrain Caerdydd Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd |
Ministry of Life | L1 L2 Llawn Amser | 4 Medi 2024 6 Medi 2024 | East Moors |
Porth Mynediad Galwedigaethol | EL2 EL3 Llawn Amser | 3 Medi 2024 | Campws Canol y Ddinas, Caerdydd Campws Dwyrain Caerdydd Campws y Barri Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd |