Mae Ben Newcombe, myfyriwr Lletygarwch Lefel 3 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, ar fin hedfan i India i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ryngwladol fawreddog i gogyddion ifanc – Olympiad Rhyngwladol y Cogyddion Ifanc 2023.
Yn ymuno â Ben, sy’n 18 oed ac yn dod o Gaerdydd, bydd Dirprwy Bennaeth Arlwyo, Lletygarwch a Chynhyrchu Bwyd CCAF, Eric Couturier y Cogydd, a fydd yn gweithredu fel mentor pan fydd yn hedfan allan ddiwedd mis Ionawr.
Fel hyfforddiant ychwanegol i baratoi ar gyfer yr Olympiad, sy’n denu’r talentau coginio ifanc gorau o bob rhan o’r byd, cafodd Ben gyfres o ddosbarthiadau meistr mentora gyda Phrif Gogydd Profiad Stadiwm Principality Ryan Jones a Phrif Gogydd a Pherchennog Bwyty Odette’s, Bryn Williams. Cafodd gyngor hefyd gan un o gewri’r diwydiant arlwyo, Steve Munkley, sydd hefyd yn feirniad yn Olympiad y Cogyddion Ifanc.
Dywedodd Bryn Williams: “Mae cael mentor pan oeddwn i’n gogydd ifanc wedi bod o fudd i fy ngyrfa i, felly mae’n bwysig i mi barhau i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent coginio.
“Roedd yn wych gweithio gyda Ben i baratoi ar gyfer cymryd rhan yng nghystadleuaeth Olympiad y Cogyddion Ifanc a rhannu rhywfaint o fy ngwybodaeth a fy mhrofiad i. Mae’r blasau a’r gweadau yn ei bryd bwyd yn wych, ac fe hoffwn i ddymuno pob lwc iddo yn y gystadleuaeth.”
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Pob lwc i Ben gan bawb yn y Coleg!
“Bydd cymryd rhan yn Olympiad y Cogyddion Ifanc yn gyfle a fydd yn newid bywyd Ben. Bydd yn arddangos ei sgiliau, ei greadigrwydd a’i ddawn ymhlith rhai o gogyddion gorau’r byd a fydd yn brofiad anhygoel ac rydyn ni’n gwybod ei fod yn mynd i wneud pwdin gwych.”