Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau AU

Mae CAVC yn cynnig y bwrsariaethau ac ysgoloriaethau canlynol, a gall myfyrwyr israddedig a rhaglenni addysg uwch ymgeisio amdanynt i gefnogi eu hastudiaethau.

Bwrsariaeth Cynnydd
Nod y fwrsariaeth hon yw eich helpu gyda chostau offer sydd ynghlwm ag astudio, hyd at werth o £500. Efallai y byddwch yn gymwys os cewch eich asesu fel rhywun sydd â statws ffioedd ‘gartref’ sy’n astudio at gwrs llawn neu ran-amser, israddedig, addysgu uwch ar ôl cyflawni cwrs lefel 3 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Un dyfarniad yw’r fwrsariaeth yn ystod y flwyddyn gyntaf o astudio. Ni fydd myfyrwyr sy’n derbyn Bwrsariaeth Cynnydd yn gymwys am fwrsariaeth arall yn ystod y blynyddoedd astudio sy’n weddill yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.


Bwrsariaeth Rhai sy’n Gadael Gofal / Gofalwyr
Mae’r fwrsariaeth yn cynnig cymorth hyd at werth £500 i fyfyrwyr sy’n astudio’n llawn amser, a pro rata ar gyfer astudio rhan amser. Mae ar gael i ddinasyddion y DU sy’n dechrau yn 2022, sy’n astudio cwrs israddedig, addysg uwch, ac sy’n bodloni’r meini prawf isod:

Cymhwysedd Rhai sy’n Gadael Gofal*

Cymhwysedd Gofalwyr**

dan 25 wrth ddechrau’r cwrs


wedi bod dan ofal, neu wedi cael llety gan yr awdurdod lleol (ALl) am gyfnod o leiaf 13 wythnos ar ôl troi’n 14 oed

cyfrifol am ddarparu gofal di-dâl i ffrind neu aelod o’r teulu, sydd yn methu ag ymdopi heb gymorth oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth

heb wella’r berthynas â rhieni rhwng gadael gofal a dechrau’r cwrs


*Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu llythyr gan yr Awdurdod Lleol (ALl) neu’r Awdurdod Gofal, yn cadarnhau eu bod dan ofal yr ALl am gyfnod o leiaf 13 wythnos ar ôl troi’n 14 oed, yn nodi eu bod bellach wedi gadael gofal yr ALl, ac yn rhywun sy’n gadael gofal fel y’i diffinnir yn y Ddeddf Plant (Gadael Gofal).

**Sylwch y byddai’r dyletswyddau hyn yn ychwanegol i gyfrifoldebau gofalu arferol y byddai gan riant sy’n gofalu am blentyn dibynnol. Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu cadarnhad gan unigolyn sy’n gweithio gyda’r teulu ar sail broffesiynol (e.e., Gweithiwr Cymdeithasol, Meddyg Teulu ac ati) eu bod nhw’n ofalwr, neu lythyr gan eich Awdurdod Lleol/Gwasanaethau Cymdeithasol neu Grŵp Cymorth i Ofalwyr.

Bwrsariaeth CAVC
Nod bwrsariaeth CAVC yw helpu â chostau dydd i ddydd sydd ynghlwm ag astudio yn y coleg. Mae’n darparu cymorth ariannol hyd at uchafswm o £300, pro rata ar gyfer astudio rhan amser (heb gynnwys blynyddoedd wedi’u hailadrodd neu ar leoliad). Efallai y byddwch yn gymwys os cewch eich asesu fel rhywun sydd â statws ffioedd ‘gartref’ sy’n astudio at gwrs llawn neu ran-amser, israddedig, addysgu uwch. Yn ogystal, mae’n rhaid i’ch aelwyd barhaol fod mewn ardal cod bost cyfranogiad isel mewn addysgu uwch (israddedigion sy’n byw yn y DU yn unig).

Dim ond un cais am fwrsariaeth y gall myfyrwyr ei gyflwyno mewn blwyddyn academaidd. Ni all myfyrwyr sy’n derbyn Bwrsariaeth Cynnydd yn y flwyddyn gyntaf wneud cais am fwrsariaeth wahanol mewn blynyddoedd astudio eraill. Telir pob bwrsariaeth ym mis Rhagfyr 2022, yn amodol ar gadarnhad fod benthyciad ffioedd dysgu myfyriwr, neu daliad am y ffioedd dysgu, wedi’i dderbyn yn llawn. Ni fydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer prentisiaeth uwch yn gymwys ar gyfer bwrsariaeth, gan fod y brentisiaeth yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cyfnod ymgeisio am Fwrsariaethau yn agor yn ystod mis Tachwedd 2022, a rhennir manylion â myfyrwyr bryd hynny.


Ysgoloriaeth Chwaraeon
Mae'r Ysgoloriaeth Chwaraeon ar gael i athletwyr lefel uchel mewn unrhyw chwaraeon sy'n cynrychioli eu rhanbarth neu wlad mewn cystadlaethau neu sydd â'r potensial i wneud hynny wrth astudio cwrs AU yn y coleg. Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn ymrwymedig i gefnogi athletwyr lefel uchel sydd â'u bryd ar ddilyn dau lwybr, yn cyfuno astudiaethau academaidd gyda chystadlu ar y llwyfan Cenedlaethol a Rhyngwladol yn eu chwaraeon dewisol. Dyfarniadau unigol hyd at £500 yw'r rhain.