Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio

Cyfle i ddysgu gan staff sy'n weithwyr proffesiynol yn y diwydiant a gweithio ar friffiau byw ar gyfer diwydiant fel rhan o'ch cwrs.

Am Gerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio

Perfformio, actio, canu, dawnsio, cerddoriaeth, cynhyrchu… gallwch droi eich angerdd yn yrfa yn y dyfodol. Mae ein cyrsiau Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio uchel eu parch wedi’u lleoli ar Gampws Canol y Ddinas, gyda chyfleusterau gwych gan gynnwys stiwdios ffilm, dawns a cherddoriaeth o’r radd flaenaf, ystafelloedd Mac ac ystafelloedd dosbarth creadigol arbenigol. Mae gan Theatr Michael Sheen 100 sedd, ac yn gartref i lawer o berfformiadau a dangosiadau trwy gydol y flwyddyn.
CAVC yw un o’r darparwyr addysg diwydiannau creadigol mwyaf yn y wlad. Mae staff proffesiynol y diwydiant gyda phrofiad a chysylltiadau helaeth a chyfredol yn y diwydiant. Mae hyn yn gweld cysylltiadau cyffrous, prosiectau byw, perfformiadau a chyfleoedd gyda rhai fel BAFTA, It’s My Shout a phrif leoliadau cerddoriaeth trwy gydol y flwyddyn, i gyd yn eich helpu i serennu.

Eich CAVC

Mae gan CAVC gysylltiadau agos â’r diwydiant creadigol gan gynnwys Theatr Everyman, BAFTA, It’s My Shout, Bad Wolf, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a mwy. Mae hyn yn cynnig sgyrsiau unigryw a chyffrous am y diwydiant, dosbarthiadau meistr, profiad gwaith, cyfleoedd a chyfranogiad mewn prosiectau byw sydd â phroffil uchel.

Eich Diwydiant

Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn werth £5.2 biliwn i economi’r DU ac mae ganddo weithlu o 190,000 (UK Music 2019). Yn ôl y data a gynhwysir yn Adroddiad Clwstwr 2020, mae yna dros 2,400 o swyddi yn y diwydiant Cerddoriaeth, perfformio a’r celfyddydau gweledol gyda chyfradd twf blynyddol cyfartalog o 2.2% yng Nghaerdydd (2009-2017).

Eich Dyfodol

Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis symud ymlaen i addysg uwch, gan sicrhau lleoedd mewn prifysgolion cerddoriaeth a chelfyddydau perfformio blaenllaw, gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae llawer o fyfyrwyr yn symud yn syth i waith, gan ddechrau eu gyrfa yn y diwydiannau creadigol.

Cyrsiau Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio

Cerddoriaeth

Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs
Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Cerddoriaeth L2 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Cerddoriaeth (Cynhyrchu) L3 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Cerddoriaeth (Perfformio) L3 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
DipHE mewn Perfformio a Recordio L5 Llawn Amser 10 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Diploma mewn Addysg Uwch (DipHE) Cynhyrchu Cerddoriaeth Electronig L5 Llawn Amser 10 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
BA (Anrhydedd) Cynhyrchu Cerddoriaeth Electronig (Atodol) L6 Llawn Amser 10 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
BMus (Anrh) mewn Perfformio a Recordio (Atodol) L6 Llawn Amser 10 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Celfyddydau Perfformio

Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs
Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Actio er Hyder L3 Rhan Amser 16 Mai 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Celfyddydau Perfformio L3 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Rubicon Dance - Diploma Estynedig L3 Llawn Amser 9 Medi 2024 Rubicon Dance
Ymarfer y Celfyddydau Perfformio (Theatr Gerddorol) L3 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Diploma Proffesiynol Ymarfer Perfformiad L4 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd