Peirianneg

Cyfle i hyfforddi i fod yn Beiriannydd medrus a chymwys - gan agor drysau ar amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfaol.

Am Beirianneg

Mae peirianneg yn datblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy ac yn arwain at ystod enfawr o yrfaoedd yn y dyfodol. Mae peirianneg yn ymwneud â phopeth o’n cwmpas – peiriannau, ffonau symudol, adeiladau, ynni – mae peirianwyr yn ymwneud â dylunio, datblygu, profi a datrys problemau.
Dysgwch yn ein cyfleusterau peirianneg arbenigol gydag athrawon profiadol yn y diwydiant. Dewiswch o blith Peirianneg sy’n cwmpasu peirianneg fecanyddol, drydanol, electronig a chyffredinol, neu canolbwyntiwch ar Beirianneg Electronig – mae’r ddau opsiwn yn rhoi sylfaen wych o sgiliau i chi ddatblygu i gyflogaeth, prentisiaeth neu brifysgol.

Eich CAVC

Nod ein cyrsiau yw rhoi theori ar waith, gydag enghreifftiau peirianneg o’r byd go iawn trwy gydol eich cwrs. Mae hyn yn cynnwys defnyddio cysylltiadau â chyflogwyr lleol, cenedlaethol a byd-eang. Datblygwch wybodaeth ddefnyddiol ac ennill cymwysterau diwydiant fel rhan o’ch cwrs, gan gynnwys Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a Thechnoleg Werdd. Mae hyn oll yn rhoi hwb pellach i’ch cyflogadwyedd.

Eich Diwydiant

Ar hyn o bryd, mae dros 75,000 o bobl yn gweithio ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn Peirianneg a Pheirianneg Electronig. Y cyflog cyfartalog y rheini sy’n gweithio yn y diwydiant yw £33,000. (Lightcast, 2022).

Eich Dyfodol

Gall cyrsiau peirianneg arwain at amrywiaeth enfawr o yrfaoedd. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr Lefel 3 yn symud ymlaen i brifysgol neu brentisiaeth i hybu eu dysgu. Mae CAVC hefyd yn cynnig HNC Peirianneg fel llwybr dilyniant. Mae llawer o fyfyrwyr eraill yn defnyddio’r sgiliau a’r cymwysterau y maent wedi’u hennill i fynd yn syth i gyflogaeth.
Peirianneg Gyffredinol

Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs
Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Technolegau Peirianneg (Canolradd) L2 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws y Barri
Mynediad i Beirianneg L3 Llawn Amser 3 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch L3 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws y Barri
Technolegau Peirianneg (Uwch / Gwell) L3 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws y Barri
HNC mewn Peirianneg L4 Rhan Amser 16 Medi 2024 Campws y Barri
Peirianneg Drydanol ac Electronig

Yr holl opsiynau Peirianneg a Gosodiadau Trydan

Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs
Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Technolegau Peirianneg (Cyflwyniad) L1 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws y Barri
Electroneg, Roboteg a Seiberddiogelwch L2 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws y Barri
Peirianneg Drydanol/Electronig (Canolradd) L2 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mynediad i Beirianneg L3 Llawn Amser 3 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Peirianneg Drydanol/Electronig (Uwch) L3 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd