Arlwyo a Lletygarwch

Cyfle i ennill cymwysterau diwydiant a phrofiad i ddechrau ar eich gyrfa fel Cogydd, Pobydd neu arbenigwr Blaen Ty.

Am Arlwyo a Lletygarwch

Mae ein cyrsiau arlwyo a lletygarwch yn cynnig cyfle i chi ennill y wybodaeth, y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau a gydnabyddir gan ddiwydiant i ddechrau gyrfa fel Cogydd, Pobydd neu arbenigwr Blaen Tyˆ. Byddwch yn dysgu mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf gan gynnwys, ceginau hyfforddi enfawr, becws ac yn ein bwytai masnachol – ‘Y Dosbarth’ ac ‘Ystafell Morgannwg’. Mae pob aelod o staff yn arbenigwyr yn y diwydiant a chewch hefyd elwa ar ddosbarthiadau meistr gan gogyddion gwadd ledled y DU.

Eich CAVC

Dyfarnwyd Rosette Coleg yr AA i’n bwyty enwog yng nghanol y ddinas, The Classroom – Y Dosbarth, a hynny am y tro cyntaf yng Nghymru. Yn ogystal fe’i enwyd ymhlith y 3 bwyty Coleg gorau yng Ngwobrau Rosette AA ledled y DU. Mae’r holl staff yn weithwyr proffesiynol yn y diwydiant a byddwch yn elwa o ddosbarthiadau meistr gan weithwyr blaenllaw, o leoliadau seren Michelin. Yn ogystal, cewch gyfleoedd am leoliadau gwaith yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae ein myfyrwyr yn enwog am eu llwyddiant mewn cystadlaethau sgiliau – ac fe’u cydnabyddir fel y dalent orau ar gyfer y dyfodol drwy’r wlad!

Eich Diwydiant

Ar hyn o bryd, mae dros 78,000 o swyddi yn y Sector Lletygarwch ac Arlwyo, a rhagwelir y bydd hyn yn tyfu 6.3% erbyn 2025. (EMSI 2021). Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu tyfu’r diwydiant yn sylweddol ac mae wedi rhoi cynllun gweithredu ar waith, gan greu mwy o swyddi a chyfleoedd i’r diwydiant.

Eich Dyfodol

Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis symud ymlaen i ddiwydiant, gan gael gwaith fel cogydd, cogydd crwst, pobydd, swyddi blaen tyˆ neu reoli lletygarwch. Mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio mewn bwytai seren Michelin a lleoliadau pum seren ledled Cymru, y DU a’r byd. Mae rhai myfyrwyr hefyd yn dewis symud ymlaen i Addysg Uwch i ddatblygu eu hastudiaethau.
Arlwyo, Pobi a Lletygarwch

Yr holl opsiynau Arlwyo a Lletygarwch

Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs
Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Becws L1 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Coginio Proffesiynol L2 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws y Barri
Lletygarwch L2 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Lletygarwch L1 L2 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd Campws Dwyrain Caerdydd Campws y Barri
Pobydd, Patisserie a Melysion L2 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Goruchwyliaeth Lletygarwch L3 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Lletygarwch - Blaen y Tŷ L3 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Pobydd, Patisserie a Melysion L3 Llawn Amser 2 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Cyrsiau Proffesiynol

Yr holl opsiynau Arlwyo a Lletygarwch

Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs
Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Barista L2 Rhan Amser 9 Ebrill 2024 11 Tachwedd 2024 Campws y Barri
Dyfarniad mewn Diogelwch Bwyd (PLA) L2 Rhan Amser Cysylltwch â ni i gael dyddiadau. Campws Canol y Ddinas, Caerdydd