Gwyddoniaeth Peirianneg Awyrofod

Hyfforddwch i gael gyrfa ym maes awyrofod - un o'r diwydiannau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU

Gwybodaeth am Peirianneg Awyrofod

Dewch i dderbyn hyfforddiant i ddilyn gyrfa mewn Peirianneg Awyrofod – gyda chyfleoedd cyffrous i weithio yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae ein holl gyrsiau Peirianneg Awyrofod wedi’u lleoli yn ein Canolfan Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod (ICAT). Mae’r ganolfan eiconig hon yn cynnwys gweithdai arbenigol, labordai a sied awyrennau enfawr lle byddwch yn datblygu’ch sgiliau ymarferol. Mae gan y Ganolfan gysylltiadau gwych â’r diwydiant. Golyga hyn y byddwch chi’n ennill y wybodaeth, y sgiliau a’r cymwysterau diwydiant angenrheidiol ar eich cwrs, yn ogystal â lleoliadau gwaith yn y diwydiant – a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant awyrofod.

Eich CAVC

Mae Canolfan Ryngwladol y Coleg ar gyfer Hyfforddiant Awyrofod yn gyfleuster o fri – sy’n ymroddedig i hyfforddi talent y dyfodol ar gyfer y diwydiant cyffrous hwn. Mae gan y Coleg a’i staff gysylltiadau diwydiant rhagorol y gall myfyrwyr fuddio ohonynt, gan gynnwys British Airways, Boeing, Caerdav, ECube ac eraill.

Eich Diwydiant

Mae diwydiant Awyrofod y DU yn parhau i fod yn ail ar lwyfan y byd a’r mwyaf yn Ewrop, gyda throsiant o £35 biliwn, 123,000 o weithwyr uniongyrchol a 3,900 o Brentisiaid. Mae Cymru yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer gweithgynhyrchu Awyrofod – mae dros 160 o gwmnïau’n cyflogi dros 23,000 o bobl. Mae’n cynnwys tua 10% o ddiwydiant awyrofod y DU sy’n cynnwys 20% o farchnad Cynnal a Chadw, Atgyweirio ac Archwilio’r DU (MRO). Fforwm Awyrofod Cymru (2022).

Eich Dyfodol

Ar Lefel 3 gallwch ddewis astudio un o ddau opsiwn – Peirianneg Awyrofod neu Beirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr Peirianneg Awyrofod yn symud ymlaen i addysg uwch, gan gynnwys BEng Anrh Peirianneg Awyrennau ICAT, a gynhelir mewn partneriaeth â Phrifysgol Kingston. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau yn symud ymlaen i gyflogaeth neu brentisiaethau mewn cynnal a chadw awyrennau, gan ddod yn beirianwyr trwydded A.Mae gan bob opsiwn gyfraddau dilyniant gwych i yrfaoedd llwyddiannus yn y sector hwn.

Pob cwrs Gwyddoniaeth Awyrofod ac Awyrennau

Llawn Amser

Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs
Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Peirianneg Awyrennau L2 Llawn Amser 2 Medi 2024 Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Peirianneg Awyrenegol L3 Llawn Amser 2 Medi 2024 Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
HND mewn Peirianneg Awyrenegol L5 Llawn Amser 16 Medi 2024 Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
BEng (Hons) mewn Peirianneg Awyrennau L6 Llawn Amser 17 Medi 2024 Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Ychwanegiad at Radd HND, BEng (Anrh) mewn Peirianneg Awyrennau gan Brifysgol Kingston L6 Llawn Amser 17 Medi 2024 Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Rhan Amser

Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs
Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Dronau - Cyflwyniad i Reoli Hedfan L1 Rhan Amser 8 Mehefin 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Peirianneg Awyrenegol - Sgiliau Llaw Sylfaenol L2 Rhan Amser Cysylltwch â ni i gael dyddiadau. Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Arholiadau CAA L3 Rhan Amser Cysylltwch â ni i gael dyddiadau. Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
HNC Peirianneg Awyrofod L4 Rhan Amser 16 Medi 2024 Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod
Rhan66 B1.1 Trwydded Dysgu o Bell (Y Lluoedd Arfog) L4 Rhan Amser Cysylltwch â ni i gael dyddiadau. Ar-lein
HND Peirianneg Awyrofod L5 Rhan Amser 16 Medi 2024 Y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Awyrofod

Yma gallwch fynd ar daith rithwir o amgylch Ryngwladol Hyfforddiant Awyrofod CAVC (ICAT)