Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi symud o’r 3ydd i’r 2il safle ym Mynegai 100 Cyflogwr Cynhwysol Gorau 2024 y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth ac mae wedi derbyn Gwobr Darparwr y Flwyddyn Gwobr Addysg Bellach (AB) y Ganolfan.
Mae'r cyflawniadau'n adlewyrchu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar draws y Coleg i wreiddio Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE). Y Coleg yw’r unig sefydliad Addysg Bellach (AB) o Gymru yn y 10 Uchaf.
Mae CCAF wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, gan arwain ar brosiect i ddatblygu modiwlau cwricwlwm gwrth-hiliaeth yn y sector AB. Mae’r cwricwlwm ar ffurf byd rhithwir, gan ddarparu profiad dysgu hygyrch a chyfranogol sydd wedi’i ddatblygu a’i gynhyrchu mewn cydweithrediad ag arbenigwyr lleiafrifoedd ethnig o ysgolion, colegau, prifysgolion a thrydydd partïon.
Yn sgil y gwaith hwn y llynedd daeth y Coleg yn un o ddim ond dau goleg yn y DU i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer ‘Oscar Coleg’ – Gwobr Beacon Cymdeithas y Colegau am Ddefnydd Effeithiol o Dechnoleg Ddigidol mewn AB.
Dywedodd Solat Chaudhry, Prif Weithredwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth: “Rwy’n anfon fy llongyfarchiadau cynhesaf i Goleg Caerdydd a’r Fro ar gyrraedd rhif 2 yn llwyddiannus ym Mynegai 100 Cyflogwr Mwyaf Cynhwysol y DU 2024.
“Mae’r sefydliadau ysbrydoledig sy’n cyrraedd y 100 Uchaf yn dangos lefelau rhagorol o gadw a recriwtio cyflogeion ac yn dangos yn glir sut maen nhw’n gwerthfawrogi ac yn parchu’r bobl sy’n gweithio iddyn nhw.
“Beth well na chael eich cydnabod gan gyfoedion a’r rhai sy’n teithio i’r un cyfeiriad tuag at nod cyffredin Tegwch yn y gweithle. Mae’n gymhelliant aruthrol.”
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi symud i’r ail safle ym Mynegai nodedig y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth ymhlith y 100 Cyflogwr Mwyaf Cynhwysol. Ac mae derbyn gwobr Darparwr AB y Flwyddyn yn rhywbeth i fod yn hynod falch ohono.
“Fel y Coleg sy’n gwasanaethu un o’r cymunedau mwyaf amrywiol a bywiog yng Nghymru, rydyn ni’n hynod falch o’r canlyniad yma. Mae'n golygu llawer i ni oherwydd ein bod yn credu ein bod wrth galon y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu a bod yr holl fyfyrwyr a’r staff yn rhan o Deulu CCAF.
“Mae hyn yn dyst i waith caled y bobl ym mhob rhan o’r Coleg sy’n gweithio mor galed i sicrhau bod CCAF yn defnyddio dull hollgynhwysol o reoli cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud ac fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw i gyd am hynny