Ymgeisio

Mae gwneud cais i CAVC yn gyflym, yn syml ac ar-lein i gyd!

Cyrsiau llawn amser

Mae'r ceisiadau ar gyfer Medi 2023 bellach ar agor! Edrychwch ar bob un o'n cyrsiau ac yna cliciwch i ymgeisio am y cwrs a ddewiswyd gennych. Fe'ch cyfeirir at ein ffurflen gais ar-lein sy'n gyflym ac yn hawdd i'w chwblhau. Yna byddwn yn cysylltu i drafod y camau nesaf ac yn eich gwahodd i gyfweliad lle bo hynny'n berthnasol.

Sut i wneud cais am gwrs AU

Mae gwneud cais am gwrs AU yn CAVC yn hawdd ar-lein

Cyrsiau rhan amser

Defnyddiwch ein chwiliwr cwrs i ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n dymuno gwneud cais amdano. Gallwch chi hidlo cyrsiau trwy dicio 'rhan-amser'. Unwaith y byddwch chi wedi dod o hyd i'r cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, cliciwch ar y botwm 'Gwneud cais Nawr', llenwch y ffurflen gais ar-lein gyda'ch manylion a byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost a manylion am eich cam nesaf.

Sut i sicrhau prentisiaeth

Os ydych chi dros 16 oed, yn byw yng Nghymru a ddim mewn addysg llawn amser gallwch wneud cais am Brentisiaeth. Yn gyntaf, byddwch angen cyflogwr. Cewch ychydig o awgrymiadau da gyda’n canllaw cam wrth gam isod.