Arholiadau 2023
Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol
Bydd holl ganlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau 17 Awst, sef Diwrnod Canlyniadau Safon Uwch.
Canlyniadau Safon Uwch
Bydd eich canlyniadau ar gael i’w casglu o Gampws Canol y Ddinas o 8am, a byddwn yn anfon eich canlyniadau atoch yr un pryd.
Gallwch hefyd gasglu’ch canlyniadau yn bersonol unrhyw bryd rhwng 8am a hanner dydd, a bydd brecwast am ddim ar gael i chi ac unrhyw un sy’n dod gyda chi, ynghyd â chyfle i ddathlu eich cyflawniadau ar y diwrnod gyda'ch cyd-fyfyrwyr a'ch athrawon.
P'un a ydych yn cyflawni'r graddau yr oeddech yn gobeithio amdanynt ai peidio, bydd ein tîm wrth law i'ch helpu i benderfynu ar eich camau nesaf, i gysylltu â phrifysgolion a'ch arwain drwy'r broses glirio. Bydd eich athrawon ar gael i edrych ar eich canlyniadau gyda chi, a'ch helpu i benderfynu ar eich camau nesaf ar ôl y coleg.
Canlyniadau Uwch Gyfrannol
Bydd eich canlyniadau ar gael i’w casglu o Gampws Canol y Ddinas o 8am, a byddwn yn anfon eich canlyniadau atoch yr un pryd.
Os ydych wedi cyflawni'r graddau yr oeddech chi'n gobeithio amdanynt, mae angen ichi ymrestru ar gyfer eich astudiaethau Safon Uwch ar gyfer mis Medi drwy ddod draw i Gampws Canol y Ddinas ar 17 Awst rhwng 9.30am a 5pm. Byddwn hefyd yn cynnig brecwast am ddim i chi, ac unrhyw un sy'n dod gyda chi, fel ffordd o'ch llongyfarch.
Os nad ydych wedi cyflawni'r graddau yr oeddech chi'n gobeithio amdanynt, dewch draw i Gampws Canol y Ddinas ar 17 Awst rhwng 9.30am a 5.00pm. P'un a yw eich graddau'n well neu'n waeth na'r disgwyl, peidiwch â phoeni, rydym yma i'ch helpu gyda'ch camau nesaf ar gyfer mis Medi a'r broses ymrestru.
BTEC
Bydd canlyniadau BTEC yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau 17 Awst.
Bydd eich canlyniadau ar gael i’w casglu o Gampws Canol y Ddinas o 8am, a byddwn yn anfon eich canlyniadau atoch yr un pryd.
Gallwch hefyd gasglu’ch canlyniadau yn bersonol unrhyw bryd rhwng 8am a hanner dydd, a bydd brecwast am ddim ar gael i chi ac unrhyw un sy’n dod gyda chi, ynghyd â chyfle i ddathlu eich cyflawniadau ar y diwrnod gyda'ch cyd-fyfyrwyr a'ch athrawon.
P'un a ydych yn cyflawni'r graddau yr oeddech yn gobeithio amdanynt ai peidio, bydd ein tîm wrth law ar Gampws Canol y Ddinas ddydd Iau 17 Awst, rhwng 9.30am a 5.00pm er mwyn eich helpu i benderfynu ar eich camau nesaf.
Bydd canlyniadau BTEC L2 yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau 24 Awst.
Bydd eich canlyniadau ar gael i’w casglu o Gampws Canol y Ddinas o 8am, a byddwn yn anfon eich canlyniadau atoch yr un pryd.
P'un a ydych yn cyflawni'r graddau yr oeddech yn gobeithio amdanynt ai peidio, bydd ein tîm wrth law ar Gampws Canol y Ddinas ddydd Iau 24 Awst, rhwng 9.30am a 5.00pm er mwyn eich helpu i benderfynu ar eich camau nesaf.
TGAU
Bydd holl ganlyniadau TGAU yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau 24 Awst, sef Diwrnod Canlyniadau TGAU.
Canlyniadau TGAU
Byddwn yn anfon eich canlyniadau atoch chi dros e-bost ar ôl 8am.
Mae hefyd cyfle ichi ddod draw i Gampws Canol y Ddinas rhwng 8am a hanner dydd i gasglu'ch canlyniadau.
Os nad ydych wedi cyflawni'r graddau yr oeddech chi'n gobeithio amdanynt, dewch draw i Gampws Canol y Ddinas ar 24 Awst rhwng 9.30am a 5.00pm. P'un a yw eich graddau'n well neu'n waeth na'r disgwyl, peidiwch â phoeni, rydym yma i'ch helpu gyda'ch camau nesaf.
Canlyniadau eraill
Mae canlyniadau eraill a fydd ar gael i’w casglu o Gampws Canol y Ddinas ddydd Iau 17 Awst o 8am yn cynnwys canlyniadau cymwysterau EAL, UAL, Bagloriaeth Cymru CBAC, a Chymwysterau Iechyd a Gofal Cymru Lefel 3 CBAC. Bydd y canlyniadau hyn hefyd yn cael eu hanfon atoch drwy e-bost.
Byddwn hefyd yn cynnig brecwast am ddim i chi, ac unrhyw un sy'n dod gyda chi, fel ffordd o'ch llongyfarch.
Cwestiynau am eich canlyniadau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich canlyniadau, gallwch gysylltu ag aelod o'n tîm arholiadau drwy exams@cavc.ac.uk