Mae Seremoni Raddio'r Prentisiaid Iau yn gyfle i ddathlu llwyddiant myfyrwyr sy'n graddio o'r Rhaglen Prentisiaid Iau yn CAVC, a chydnabod myfyrwyr sy'n rhagori yn eu hastudiaethau.
Mae'r garfan o Brentisiaid Iau yn gweithio ar draws sectorau mewn amrywiaeth o rolau prentisiaeth, wrth gwblhau cymwysterau ychwanegol ym mhynciau megis Mathemateg a Saesneg yn y Coleg. Mae'r rhaglen bellach yn ei thrydedd flwyddyn, ac wedi gweld nifer o raddedigion yn mynd ymlaen i gwblhau rhagor o gymwysterau neu ennill cyflogaeth gydag ystod o ddiwydiannau.
Nodyn mewnol: Byddwch yn ymwybodol y bydd mynediad i'r Atriwm, Coleg Caerdydd a'r Fro, Heol Dumballs, wedi'i gyfyngu o 14:00 hyd at 20:00, pan mae disgwyl i'r digwyddiad ddod i ben.